Wedi ei gyfareddu fel llawer yn ei genhedlaeth gan gyfaddasiad Edward Fitzgerald o Rwbâ'iyât Omar Khayyâm, bwriodd John Morris-Jones ati i lunio'i fersiwn Gymraeg gan droi at y Berseg wreiddiol. Ymddangosodd y gwaith yn ei gyfrol Caniadau (1907) ac wedyn yn argraffiad arbennig Gregynog (1928). Mewn teyrnged i Syr John gofynnodd R. Williams Parry: 'Ac onid yn ei "Omar" - y gerdd bagan honno - y clywyd Cymraeg gorchestol y Beibl felysaf erioed mewn cerdd?'
John Morris-Jones - Penillion Omar Khayyâm
£3.00Price