Dyma lyfr sylfaenol hanes y Cymry.

 

Mae 'Dogfen Gildas', fel y gelwir hi yn y golygiad newydd hwn, yn cynnwys dwy elfen: yn gyntaf, llythyr o gerydd chwyrn i arweinwyr seciwlar a chrefyddol Prydain y chweched ganrif; ac yn ail, crynodeb o hanes Prydain hyd at gyfnod yr awdur.

 

Ai un awdur sydd i'r ddwy elfen? Ynteu dau? Mae'r cwestiwn wedi ei godi o'r blaen; yma ystyrir ef yn ofalus iawn, a daw'r golygydd at ei gasgliad ei hun.

 

Y rhan hanesyddol - pwy bynnag oedd ei hawdur - yw'r ymgais gyntaf ar glawr i adrodd hanes Prydain a'i phobl. Bu'n ddylanwadol trwy'r canrifoedd a hyd y dydd hwn, nid yn unig ar y modd yr ysgrifennwyd yr hanes, ond ar y modd y lluniwyd ef hefyd. Credodd y Cymry, yn gam neu'n gymwys, mai hwy yw etifeddion y 'Britanni' a ddarlunnir yn yr adroddiad hanesyddol. Ydym, 'ry'n ni yma o hyd', chwedl y gân, ond yma gyda ni o hyd hefyd y mae'r teimlad o israddoldeb.

 

Mewn cyfieithiad newydd awdurdodol ynghyd â thrafodaeth fanwl, dyma'n gwahodd eto i ystyried beth yn union oedd ystyr a diben 'Dinistr Prydain'.

 

Ceir yma'r testun Lladin a'r cyfieithiad Cymraeg wyneb yn wyneb.

Llythyr Gildas a Dinistr Prydain

£15.00Price