‘Ned a gân enaid y gerdd’, meddai cyfoeswr am Edward Moris (un r bellach, fel yn wreiddiol), y ffermwr a’r porthmon o’r Perthillwydion yn Uwchaled. Yn un o feirdd Cymraeg galluocaf yr ail ganrif ar bymtheg, fe saif rhwng dau fyd. Canodd ddigon, yn null traddodiadol Beirdd yr Uchelwyr, o gywyddau mawl, marwnad, gofyn a chyfarch. Yn yr eithaf arall, gallai droi ei law at benillion rhydd. Rhwng y ddeupen, yr oedd yn arloeswr ac yn feistr ar y ‘canu caeth rhydd’ neu’r ‘canu carolaidd’ fel y gelwir ef. Boed hi’n archebu gwn i saethu brain neu’n ddiolch am nodded i’r iaith Gymraeg, gwelwn yr un adnoddau ar waith. Mae’n llais i’w oes, ac i brofiadau oesol hefyd, a’i gywydd lle mae’r ‘Prydydd yn Ymliw â’i Awen’ yn un o gerddi pwysicaf yr iaith fel mynegiant o ymdeimlad diwylliannol. A phetai ar y Talwrn, faint o farciau am ei gywydd ‘wyneb a gwrthwyneb’? Yn 1904 y cyhoeddwyd ddiwethaf gasgliad o’i waith. Yn y detholiad a’r golygiad hwn dyma gyfle i genhedlaeth newydd ddod i’w adnabod.
top of page
£15.00Price
bottom of page
