top of page
Barned pawb fel y myn am ei gymeriad, y mae Goronwy Owen yn un o ffigurau mwyaf arwyddocaol ein llenyddiaeth, ac erys ei ddylanwad arni o gyd. Yn ei lythyrau (y rhan fwyaf at Forrisiaid Môn) cawn gofnod o'i fywyd helbulus, ei hoffterau brwd, ei ragfarnau cryfion, ei nod uchel a'i freuddwydion. Yma, yn ei ymgais i ddehongli hen gerddi a dysgu oddi wrthynt, ac yn ei adleisio ar syniadau ffasiynol Seisnig yr oes a'u cymhwyso at y traddodiad Cymraeg, cawn gychwyniadau ysgolheictod a beirniadaeth Gymraeg fodern. Anodd peidio ag edmygu o'r newydd ei graffter, ei ddealltwriaeth, ei awydd i ddyrchafu'r iaith a'i llenyddiaeth, ac yn wir i wasanaethu yng Nghymru. Ym 1924 y cafwyd ddiwethaf olygiad o lythyrau Goronwy Owen. Gwnaed y golygiad newydd hwn gan bennaf awdurdod ein dydd ar draddodiad llenyddol Môn ac ar gefndir a chysylltiadau Goronwy a'r Morrisiaid. Dyma 'Gyfrol Cenedl' yn wir.

Llythyrau Goronwy Owen

£15.00Price
    bottom of page