CANU TWM O'R NANT
‘Bellach dyma ddetholiad o ganeuon, areithiau ac ambell ddeialog o’r anterliwtiau a phrif waith barddonol Twm o’r Nant yn cael ei gyflwyno i ganrif newydd, gyda nodiadau manwl, geirfa a rhagymadrodd gwerthfawr.’ – Llafar Gwlad.
‘Mae Dafydd Glyn Jones wedi dethol yn ofalus o waith Twm o’r Nant – ei gerddi a’i anterliwtiau, ac mae’n ffynhonnell hollbwysig i unrhyw un yn astudio hanes neu lenyddiaeth Cymru.’ – Y Faner Newydd.
‘Dyma ddetholiad diddorol a chytbwys, wedi ei osod yn drefnus gymen. ... Cyflwynwyd rhagymadrodd eglur, hawdd ei dreulio, wedi ei rannu’n adrannau hylaw, ac sy’n trafod gwahanol agweddau ar y bardd a’i gyfnod. At hynny, cyflwynwyd nodiadau byr a pherthnasol ar ambell bwynt o dywyllwch yn y cerddi, a geirfa dra defnyddiol sy’n esbonio ystyr ambell air diarffordd. Nid oes esgus dros ddiystyru cerddi’r Bardd o’r Nant ragor.’ – Gwales.
‘Cyfrol sy’n werth ei chael ac sy’n rhoi golwg o’r newydd ar weithiau ffraeth un o gymeriadau mawr ein cenedl.’ – Fferm a Thyddyn.
‘Dyma fenter, i’w chanmol yn fawr, gan ysgolhaig ar ei liwt ei hun. Ni fu casgliad mawr o waith yr hen Dwm ar gael ers 1889. Detholiad yw hwn o ryw bedwar ugain cerdd, o’r pum cant a adawodd, a cheir arolwg, geirfa a nodiadau tra gwerthfawr. Addewir y bydd y gyfres yn dwyn i olau dydd weithiau clasurol na buont ar gael ers hydoedd.’ – Y Casglwr.
‘[Y] mae dewis cyflwyno gwaith baledwr ac anterliwtiwr fel hyn yn awgrymu y bydd y gyfres yn herio ein rhagdybiaethau ac yn ein gorfodi i ailgloriannu statws a chyfraniad rhai o feirdd ac awduron y gorffennol.’ – Llên Cymru.
‘Cymwynas fawr Dafydd Glyn Jones yw gadael i ddarllenwyr cyfoes ddod i adnabod Twm a gwerthfawrogi ei ddawn arbennig drostynt eu hunain. Cawn yn y gyfrol bwysig hon gywyddau, penillion mydryddol o’r anterliwtiau a cherddi rhydd cynganeddol. ... Mae cerddi’r gyfrol hon yn ddadlennol a grymus, ac mae eu hieithwedd yn syndod o ddarllenadwy a dealladwy. O ddiosg argraff ddieithr y ddeunawfed ganrif, gall darllenwyr yr unfed ganrif ar hugain eu dilyn yn rhwydd, a phan fo’r ystyr neu’r gyfeiriadaeth yn anghyfarwydd ceir esboniad yn y nodiadau a’r eirfa i’n goleuo.’ – Y Traethodydd.