top of page

CYFROLAU CENEDL

‘Arwydd o genedl sy’n falch o’i thraddodiad llenyddol yw ei pharodrwydd i gadw testunau a fu’n gerrig milltir pwysig yn y traddodiad hwnnw mewn print. Cyfres sy’n amcanu i wneud hynny yw Cyfrolau Cenedl o wasg Dalen Newydd. ... Bydd hon yn gyfres bwysig.’ – Llafar Gwlad.

 

‘Nid anelu at gyhoeddi gweithiau “poblogaidd” a wneir ... , ond dwyn i olau dydd weithiau a aeth yn anodd iawn cael gafael arnynt. Dylai pob myfyriwr Cymraeg gwerth ei halen gael yr holl gyfrolau ar ei silff. ... Gwaith diddiolch – a dielw, yn sicr – yw cynnal gwasg academaidd yn yr hinsawdd sydd ohoni, ond rhaid dweud bod cyfrolau Dalen Newydd yn plesio’r deall a’r llygad fel ei gilydd.’ – Gwales.

 

‘Golygiad newydd yw pob un, o destun a aeth yn brin drybeilig ac a ddylai fod ar astell lyfrau pawb diwylliedig. ... Dyma gyhoeddwr sy’n cyrraedd mannau lle nad aiff eraill.’ – Y Casglwr.

 

‘Ond mae Dafydd Glyn Jones yn ymdrechu i sicrhau nad yw gweithiau meistri (ac eraill) yr oes a fu yn diflannu o ymwybyddiaeth y genedl, trwy ofalu eu bod ar glawr ac ar gael. Does ond gobeithio y bydd technoleg yn hwyluso ac yn ehangu’r gwaith hwn: mae ar bob cenedl angen corff o lenyddiaeth, yn ffaith a ffuglen, i gyfeirio ato fel rhywbeth sydd yn perthyn i’r genedl honno, ac yn ei diffinio.’ – Taliesin.

 

‘Cynhwysir yn y gyfres nifer o weithiau y mae’n hynod anodd cael gafael arnynt yn ein dyddiau ni heddiw, a mawr yw ein dyled i’r golygydd am sicrhau eu bod ar gael i ddarllenwyr cyfoes. ... Golygwyd pob un i’r safonau golygyddol uchaf, cynhwysir rhagymadrodd penigamp ym mhob achos. ...

Mae’r llyfrgell a adeiladwn bob yn rhifyn fel hyn yn ffynhonnell bwysig i unrhyw un sydd yn ymddiddori yn hanes a llenyddiaeth Cymru.’ – Y Cymro.

 

‘I genedl sy’n prysur golli ei chof a’i chyfoeth, y mae’r gyfres hon yn gymwynas ac yn gaffaeliad enfawr.’ – Barn.

 

‘Mae’r gyfres lân a deniadol ei diwyg hon yn prysur dyfu gan lenwi bwlch o bwys yn yr adnoddau sydd ar gael i efrydwyr ein llenyddiaeth, a mawr yw’r gobaith y bydd yn sbarduno eu diddordeb yn y maes ymhellach.’ – Tlysau’r Hen Oesoedd.

 

‘Mae’r gyfres bwysig ac arloesol hon yn mynd o nerth i nerth – a hynny ar garlam eithriadol hefyd, gyda’r cyfrolau’n llifo o’r wasg un ar ôl y llall. ... Mawr hyderaf y bydd yr adnoddau a’r cyllid angenrheidiol ar gael i sicrhau ymddangosiad y wledd o ddarllen hon yn ystod y misoedd a’r blynyddoedd nesaf hyn. Maent oll yn gyfrolau hardd iawn sydd yn bleser pur eu trin a’u trafod.’ – Y Cymro.

bottom of page