top of page

O'R INDIA BELL

‘O ran ei chynnwys, dyma löyn byw llenyddiaeth Gymraeg gyfoes, a’r ddiweddaraf gan awdur profiadol, uchel iawn ei barch a’i glod ym maes rhyddiaith. Ceir ynddi wyth stori i gyd, hynod ystwyth o ran arddull, llawn dychymyg a chyffro, a’r awdur wedi deall i’r dim wir anghenion stori dda, sef rhediad byrlymus, magu a chynnal diddordeb, a’n tywys ni oll tuag at yr atalnod llawn olaf, gan wybod inni fwynhau pob tamaid o’r daith er mwyn cyrraedd yno! ... Yn y gyfrol cawn y bryntni a’r llonder, ac yn anad dim byd arall storïau cyflawn sy’n fwrlwm o ddychan effeithiol, hiwmor a dawn dweud tra arbennig. Cyfrol i’w phrynu a’i thrysori.’ – Eco’r Wyddfa.

​

 

‘Nid oes neb yn yr oes hon yn ysgrifennu fel Glyn Adda, nom de plume ai peidio. Cymro ymosodol, deifiol ei dafod sydd yma, un a duriodd ddwfn leoedd hanes a llenyddiaeth Gymraeg am athrylith ei waith ei hun, a thynnaf fy het iddo am wneud hynny gyda’r fath pizzazz. ...

 

Dau ddewis sydd wrth ddarllen y gyfrol hon, chwerthin neu grio. O dan y doniolwch a’r cyllyll, mae gwybodaeth ddofn o hanes, diwylliant a llenyddiaeth Gymraeg yn eu holl arweddau. Mae cyfeirio at lên Cymru yn dod yn ail natur i Glyn Adda ac mae’n ei pharodïo’n llwyddiannus droeon a thro. ... Mae’r gyfrol yn gwneud cyff gwawd o’r ‘tswnami o nonsens sy wedi boddi ein gwlad oddi ar ddatganoli’ ac yn enghreifftio ‘[g]wiriondeb ddiwaelod y ddynol ryw’. Eto i gyd ni all dyn lai na meddwl mai oherwydd, ie ei rwystredigaeth, ond hefyd ei barch a’i gariad at y cyfryw bethau y gwna hyn oll, i’n cystwyo i gallio cyn ei bod yn nos ar ein cenedl.’ – Barn.

bottom of page