top of page

BREUDDWYD PABYDD WRTH EI EWYLLYS

‘Mae ailddarllen gwaith Emrys ap Iwan yn chwa o awel iach hyd yn oed heddiw ac, yn naturiol, gan iddo osod ei ‘Freuddwyd’ yn y flwyddyn 2012, mae’n ddifyr chwilio yma a thraw i weld pa mor wir fu ei broffwydoliaethau. Ac y maent yma, yn gyrru ias i lawr cefn rhywun.’ – Taliesin.

 

‘Gyda’r gyfrol hon, gan mlynedd union bron ar ôl cofiant Gwynn Jones, dyma ailblannu ac ailddefnyddio Emrys o’r newydd. ... A rhoi’r peth ar ei fwyaf rhyddieithol, dyma lyfr arall ar y silff lle na buasai bwlch yn bod mewn diwydiant cyhoeddi llai cyntefig.’ – Llên Cymru.

 

‘Os, felly, y’ch temtir i beidio estyn at y gyfrol hon, gan gredu mai llyfr sychlyd Fictoraidd gan weinidog ydyw – meddyliwch eto. Oherwydd dyma gyfrol a rydd wên ar eich wyneb ac a wna i chi feddwl eto ynglŷn â sut y daethom i’r Gymru sydd ohoni heddiw.’ – Gwales.

bottom of page