CAMU'N ÔL A STORIAU ERAILL
‘Prin iawn yw’r awduron sydd wedi gwneud i mi chwerthin yn uchel. Yn eu plith mae Wil Sam ac Eirwyn Pontsiân. At y rhain ychwanegwch Glyn Adda a’i gasgliad rhyfeddol o storïau byrion, Camu’n Ôl a Storïau Eraill. ... Mae’r un-stori-ar bymtheg sydd yn y casgliad i gyd yn berlau. Dyma waith awdur sy’n berchen ar lygaid craff, clustiau meinion a dychymyg sy’n drên. Mae dychan a hiwmor cynnil – ac weithiau dynerwch atgofus – yn rhedeg drwy’r cyfan. ... Dyma gyfrol y talai i bob egin awdur – ac ambell un sydd wedi ymsefydlu hefyd – ei darllen. Drwyddi mae’r Gymraeg yn llifo megis afon. Bu ei darllen yn bleser pur.’ – Gwales a’r Cymro.
‘Yr awydd hwnnw i ddod o hyd i’r atebion mewn bywyd yw un o’r greddfau dynol a archwilir gan y gyfrol hon. ... Mae’n deall ac yn disgrifio amrywiaeth eang o emosiynau dynol a’u holl gymhlethdodau, o’r ffyrnigrweydd a’r rhwystrediaeth sydd i’w gweld yn ei ddychan hyd at yr empathi a’r tosturi sydd ganddo tuag at rai o’i gymeriadau. Ac yn hynny o beth, daw perthnasedd y ffug gyfenw Adda i’r amlwg. Nid darlunio Cwmadda na Chymru yn unig a wna’r awdur yma, ond darlunio’r ddynoliaeth. Hil Adda, a’i holl ogoniannau ac amrywiaethau – a’i holl ddiffygion hefyd wrth gwrs!’ – Tu Chwith.
​
‘Hoffais “Rhan Fach mewn Hanes” yn fawr. Ond toes yna gymaint o bobl hurt yn meddwl eu bod yn bwysig? Ac mae hanes y capel yn cau yn ardderchog, er na fedraf ddeall pam fod cau capel yn fy styrbio a minnau byth yn mynd ar y cyfyl nac yn credu mewn dim. Rydym yn genedl (os cenedl o gwbl) ddwl a di-ddeall ac yn cysgu gan adael i bopeth sâl ennill, – a brolio’r cyfan sobor â chelwyddau hyfryd. ... Dal ati Glyn Adda, a diolch amdanat.’ Cwsmer Bodlon 1.
​
‘Prynais Camu’n Ôl a Storïau Eraill yn Siop y Pethe, a’i ddarllen ar ôl swper hyd berfeddion neithiwr gyda blas anghyffredin: ... gallaf ddweud heb os na ddarllenais ddim beirniadaeth wleidyddol-gymdeithasol am y Gymru sydd ohoni mor finiog gan neb, ond yr hyn sy’n ardderchog hefyd yw bod y cymeriadau sy’n llefaru neu’n corffori’r feirniadaeth honno yn bobl fyw. Gwych, gwych.’ Cwsmer Bodlon 2.
​
‘Mae’n rhaid imi gyfadde nad ydw i ddim wedi darllen dim byd Cymraeg sydd mor llawn direidi am sbel go hir, os erioed .’ – Cwsmer Bodlon 3.
​
‘Bu i’r straeon dychanol fy mhlesio i’n fawr gan fod y dweud mor ddi-flewyn-ar-dafod a’r sylwadau ar y natur ddynol mor graff. Yn sicr, y mae hiwmor deifiol Glyn Adda wedi taro deuddeg i mi bob tro, ac mi wnes i chwerthin yn uchel yn aml iawn wrth ddarllen y storïau. ... Yr hyn sy’n nodweddu pob stori yn y casgliad yw Cymraeg eithriadol o groyw, naturiol a llyfn. Yn wir, mae sgrifennu o’r fath yn ymddangos yn ddawn mor ddiymdrech ar ran yr awdur fel bod y darllenydd yn tueddu i anghofio’r gamp sydd wedi’i chyflawni. ... Mi fedrwn ddal ati hyd syrffed i bentyrru ansoddeiriau am y gyfrol (amlhaenog, direidus, dychmygus, dyfeisgar, gwreiddiol, heriol, myfyriol, treiddgar ... ). Ond y peth callaf y medraf ei wneud yw eich annog i’w darllen.’ – Cwsmer Bodlon 4.