top of page

MEDDYLIAU GLYN ADDA

‘Braint yn wir oedd cael cyfle i ddarllen y gyfrol ddiweddara o wasg Dalen Newydd o dan y teitl Meddyliau Glyn Adda, sy’n gasgliad o dros 90 o flogiau yn pontio’r blynyddoedd 2012-17. Dagrau pethau yw mai dim ond 150 copi o’r gyfrol sydd wedi cael eu hargraffu. Does dim dadl nad yw’r campwaith hwn yn haeddu cylchrediad llawer iawn mwy. Er bod Glyn Adda yn awgrymu yn ei ragair mai ‘cicio ceffyl marw yng Nghymru’ y mae o a’i debyg, mae’n anhepgor ei fod o’n dal i bigo cydwybod cenedl sydd fel petai’n cerdded yn gyfoethog gyfforddus i ddifancoll.

​

Er na fuaswn i yn gallu dweud Amen i bopeth y mae Glyn Adda yn ei ddweud, eto ni fedraf lai nag edmygu gallu’r awdur i gyflwyno’i neges drwy’r llifeiriant geiriol sy’n deillio o’i feistrolaeth drylwyr o’r Gymraeg ar ei chyfoethocaf a chan dynnu ar ei ddysg a’i grebwyll mewn modd sy’n perswadio rhywun ei fod o’n traethu’r gwirionedd. A dyna hanfod blogiwr neu golofnydd gwerth ei halen. ...

​

Diolch am orig ddifyr iawn yn ei gwmni – a melys moes mwy.’ – Gwilym Owen, Barn.

​

'Yn naturiol, y mae gwerth unrhyw lyfr sydd wedi’i seilio ar flog yn dibynnu’n helaeth ar natur y blog gwreiddiol ar-lein. Prif gynnwys Blog Glyn Adda yw ysgrifau gwreiddiol sy’n ymdrin ag ystod eang iawn o bynciau gan gynnwys gwleidyddiaeth, llywodraeth leol, addysg, llenyddiaeth a hanes. Hefyd, o dro i’w gilydd, bydd teyrngedau, adolygiadau, straeon byrion, cerddi a phytiau o ddramâu yn ymddangos yno. Y mae Dafydd Glyn Jones yn feistr ar bob agwedd ar Gymraeg llenyddol a llafar, ac mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn y rhyddiaith naturiol, afaelgar a chroyw sy’n nodweddu pob ysgrif ar y blog. Dawn arall y mae Glyn Adda yn meddu arni yw’r gallu i ddod â deunydd o sawl ffynhonnell at ei gilydd yn ddeheuig, a thynnu ar ei wybodaeth eang am lenyddiaeth, hanes a gwleidyddiaeth i gynnig dehongliadau gwreiddiol a threiddgar. Yn wir , nodweddir ei sgrifennu blogiol drwyddo draw gan ei allu i feddwl mewn ffordd ffres ac annibynnol a chynnig sylwebaeth graff ac unigolyddol ar y materion dan sylw.

​

Peth arall amlwg iawn yn ei sgrifennu yw ei arddull eithriadol o ddiflewyn-ar-dafod; nid yw’n ymatal rhag beirniadu na sefydliadau, na gwleidyddion lleol a chenedlaethol, na’i gyd-Gymry yn y ffordd fwyaf hallt, gan dynnu ar ei ddawn i ddychanu a’i hiwmor deifiol a direidus i wneud hyn. ... Ym mhob blogiad bron iawn, y mae rhywun yn ymwybodol o’i ddyhead i weld Cymru’n datblygu’n ‘genedl fodern hyderus’ a’i amheuaeth yngylch gallu’r Cymry eu hunain a’r gyfundrefn wleidyddol sydd ohoni i gyflawni hyn.' – Cwsmer bodlon.

 

 

​

bottom of page