top of page

GALW'N ÔL

'Ymddengys fod yn rhaid i lyfr Cymraeg ennill ei le ar y cwricwlwm addysg os yw am aros mewn print. Mae yna resymau tros hyn wrth gwrs ond mae perygl os nad yw’n clasuron ar gael i’w darllen yna fe fyddwn yn hwyr neu’n hwyrach yn colli gafael ar ein traddodiad llenyddol.

 

Aeth Dafydd Glyn Jones ati gydag egni rhyfeddol i geisio unioni’r cam a Galw’n Ôl yw’r ddiweddaraf yn ei gyfres Cyfrolau Cenedl.  Cawn olwg ar waith deuddeg o feirdd ‘oedd yn canu dros drothwy’r ugeinfed ganrif ac yn ystod ei hanner cyntaf.’ Dywedir amdanynt eu bod yn ‘wÅ·r o sylwedd’ ac ymddangosodd gwaith rhai ohonynt ym mnlodeugerddi mwyaf arwyddocasol y ganbrif ddiwethaf.  Ond y duedd fu iddynt fynd yng nghysgod beirdd mwy na hwy ac mae yna ymdrech yma i adfer peth o’u statws.

​

Roedd saith o’r deuddeg bardd yn weinidogion a’r gweddill yn drwm dan ddylanwad gwareiddiad anghydffurfiol y cyfnod. ... Perthyn rhyw felyster lled-ramantaidd i’w cerddi ynghyd â hiraeth am fyd a chymeriadau oedd fel pe ar fin diflannu am byth.  Mae naws tipyn yn wahanol i gerddi rhyfel Dyfnallt.  Ond mae’n rhaid dweud mai cerddi Elphin, wrth iddo ddychanu’r Ymerodraeth Brydeinig, a marwnadu Charles Stewart Parnell sy’n rhoi’r ysgytwad mwyaf i rywun.' – Dafydd Morgan Lewis, Y Traethodydd.

bottom of page