top of page

LLYTHYRAU GORONWY OWEN

‘Ceir cyflwyniad bywiog ac eglur i fywyd a chymeriad Goronwy, ac mae’r nodiadau trylwyr yn sicrhau nad aiff y darllenwr cyffredin ar goll ym myd dieithr y ddeunawfed ganrif. ... Dyma gyfle i ddarllenydd heddiw brofi uchydig o’r cymeriad cyffrous, paradocsaidd hwn.’ – Gwales.

 

‘Ar garlam ar sodlau dwy gyfrol ysblennydd o weithiau’r Athro W.J. Gruffydd, cawn yma gasgliad cyflawn o lythyrau Goronwy Owen (1723-69). A phwy gwell fel golygydd y gyfrol na’r Parchedig Dr. Dafydd Wyn Wiliam, Bodedern, ysgolhaig ac ymchwilydd o’r iawn ryw sydd yn arbenigwr digymar ar hanes Môn? ... Mae aparatws ysgolheigaidd y golygydd yn batrwm perffaith i unrhyw un a hoffai fentro i faes astrus fel hwn. ... Dyna’n wir batrwm o lyfr!’ – Y Cymro.

 

‘Ceir rhagymadrodd rhagorol ..., ond gwir ogoniant y llyfr hwn yw’r nodiadau a geir ar ddiwedd y llyfr. Yma y mae holl ysgolheictod y golygydd ar waith wrth iddo fwrw goleuni ar gynnwys y llythyrau, gan egluro pwy yw’r bobl y cyfeirir atynt, esbonio ambell bwynt hanesyddol neu lenyddol, a thraethu ar arwyddocâd ac ystyr ambell briod-ddull neu ddihareb – ac mae rhyddiaith Goronwy yn dryfrith o idiomaua diarhebion bachog a choeth.’ – Barn.

 

‘Yn hon ceir Rhagymadrodd lle crynhoir y cyfan a wyddys am fuchedd helbulus Goronwy, ynghyd â chyfres o Nodiadau manwl ac ysgolheigaidd ar gynnwys y llythyrau, sydd, nid yn unig yn taflu goleuni i aml gornel a fu’n dywyll i’w darllenwyr hyd yma, ond y mae cael craffu arnynt yn brofiad i’w fwynhau a’i werthfawrogi’n fawr. Ychwaneger at hyn atodiadau sy’n ymwneud â theulu a thylwyth ehangach Goronwy, llyfryddiaeth, geirfa a mynegai manwl, a byddai’n anodd dychmygu cyfrol gyflawnach.’ – Y Traethodydd.

 

‘Cynnyrch clerigwr o fardd megis ar ddisberod o un wlad i’r llall – Cymru, Lloegr, America – ydynt ac adlewyrchant amrywiol agweddau arc ei fywyd, o’r gwych i’r gwachul, yn Gymraeg ac yn Saesneg, mewn ffordd drawiadol o fyw a chofiadwy. ... [D]engys Dafydd Wyn Wiliam ei wybodaeth ddigymar o draddodiad llenyddol Môn, ffrwyth blynyddoedd lawer o ddiwyd a manwl chwilio archifau sirol, cynefindra â llythyrau’r Morrisiaid a chynnyrch barddonol beirdd Môn, astudio achau – a llawer ffynhonnell arall hefyd yn ddiau. Ymchwil ad fontes go iawn a llafur cariad ac ymroddiad diflino.’ – Tlysau’r Hen Oesoedd.

​

‘Arwyddocaol, efallai, yw’r ffaith mai “Cyfrolau Cenedl;” a roddwyd yn deitl i’r gyfres, yn hytrach na “Chlasuron

Cenedl”. Golyga hynny y gellir ystwytho gafael y syniad o glasur a dwyn i sylw weithiau na chawsant erioed le amlwg yn y canon, megis dramâu Thomas Parry, a hyd yn oed Y Dreflan gan Daniel Owen a fu gyhyd yng nghysgod Rhys, Enoc a Gwen. Y golygydd, wrth reswm, sy’n dethol yr hyn y mae’n ystyried y dylid ei atgyfodi – a hynny’n ddiau wedi profiad blynyddoedd o weld gwybodaeth gyffredinol myfyrwyr ynghylch awduron y tu hwnt i’r meysydd llafur yn crebachu. Yn hynny o beth, mae ei ymdrech i ddenu sylw at awduron y ddeunawfed ganrif a’r bedwaredd ar bymtheg, yn arbennig, i’w chroesawu’n fawr. ... Mae’r rhagymadroddion eglur, y golygu ysgafn (heb ymyrraeth ormodol â’r testun gwreiddiol), a’r nodiadau esboniadol sy’n nodweddu pob cyfrol o’r gyfres yn llwyddo i gadw naws ac asbri’r lleisiau gwreiddiol, gan oleuo unrhyw ystyron a chyfeiriadaeth sydd bellach yn ddieithr i ddarllenwyr cyfoes. ...

 

Ystyrier, er enghraifft, y nawfed gyfrol yn y gyfres – Llythyrau Goronwy Owen (2014). Cawn gan Dafydd Wyn Wiliam gyflwyniad difyr a darllenadwy i fywyd a gwaith Goronwy Owen. Amlygir sut y rhoddwyd yr ail fab i saer coed o Lanfair Mathafarn Eithaf ar drywydd dysg gan ei fam, gyda chefnogaeth mam y Morrisiaid, a fynnodd “y dylai’r bachgen dawnus, a oedd yn fychan ac eiddil o gorff, gael breintiau addysg” (t. 1). Adroddir hanes ei yrfa wedi hynny, a’r ergydion a ddaeth i’w ran yn ifanc megis pan gollodd ei fam yn 1741 a’i fethiant i sicrhau nawdd i astudio yn Rhydychen. Nid gwybodaeth fywgraffyddol gefndirol yn unig a geir yma – i’r sawl sydd am astudio barddoniaeth Goronwy Owen dyma’r math o fanylion sy’n egluro’r hyn a’i cymhellai fel prydydd. Yn yr un modd y mae’r llythyrau yn gloddfa gyfoethog i’r sawl sydd am ddeall sut yr ymatebai Goronwy i’w amgylchiadau – i’w eiddilwch corfforol (“y mae fy nghoesau fel gwiail tybaco”), ei fynych siomedigaethau, ei addysg farddol ac ati, ac maent yn ddogfennau pwysig i’r sawl sydd am astudio iaith a syniadaeth y cyfnod.’ – Llên Cymru.

bottom of page