top of page

DRAMAU W. J. GRUFFYDD

‘Maent yn ddiau yn para’n ffres, yn ddiddorol ac yn bennaf oll yn adlewyrchiad pwysig o’r cyfnod tyngedfennol, arbennig hwnnw ar drothwy’r Rhyfel Byd Cyntaf. Diolch i ymchwil a dysg y golygydd, fe’u gosodwyd ynn eu cefndir hanesyddol fel genre, a rhoddir pwyslais mawr ar ddatblygiad Gruffydd fel awdur a dramodydd.’ – Y Cymro.

 

‘Wrth ddarllen storïau Emrys Williams ac Ifan Morris, felly, cofier nad Gruffydd a’u creodd ond mudiad yn ei anterth mewn festrïoedd capel a neuaddau pentref ledled Cymru, yn diwallu angen cynulleidfaoedd am ystyried eu hunaniaeth. Hawdd gwenu’n nawddoglyd arnynt, ond, fel y’n hatgoffir yn rhagymadrodd campus Dafydd Glyn Jones, “ffenomen gymdeithasol, ddiwylliannol sydd yma, cyfrwng dealltwriaeth cenedl ohoni ei hun, ac mewn rhyw ystyr un o gyfryngau ei pharhad hefyd”.’ – Gwales.

 

‘O ran y dramâu, perthynant i fudiad drama amatur Cymru pan oedd hwnnw yn dal i fod ar ei anterth ac, felly, yn hyn o beth maent yn cynrychioli pennod bwysic yn y naratif ehangach ynghylch datblygiad y ddrama genedlaethol Gymreig.’ – Y Traethodydd.

 

‘O’m profiad i’n ymchwilio i’r pwnc, dyma un o’r ychydig astudiaethau sy’n cynnwys cymaint o wybodaeth dreiddgar – hanes yr awdur, hanes y ddrama Gymraeg, adolygiadau a gwerthfawrogiad o’r ddrama, a hynny i gyd o fewn un clawr. ... Byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb ym myd y ddrama Gymraeg i ddarllen yr hyn sydd gan Dafydd Glyn Jones i’w ddweud, ac yn sicr yn argymell i’r sawl sy’n astudio naill ai’r dramâu neu eu hawdur sicrhau bod y llyfr hwn wrth eu penelin bob amser.’ – Eco’r Wyddfa.

bottom of page