Y DREFLAN
‘Dyma gyfle eto felly, wedi tua 120 mlynedd, i gyfarfod cymeriadau lliwgar a chofiadwy fel Benjamin a Becca Prys, Pitar Pugh, John Aelod Jones, Jeremiah Jenkins, Sharp Rogers, Mr. Smart a Mrs. Enoch Jones – oll yn nodweddiadol o wahanol haenau o fewn cymdogaeth ‘Y Dreflan’ ac yn gymheiriaid terilwng i gymeriadau mwy enwog y nofelau eraill. ... Roedd cyhoeddi’r gwaith hwn yn 1881yn brawd sicr i Ddaniel Owen fynd i’r afael â llenydda o ddifrif ac roedd y cymeriadau a grewyd ganddo, y deialog byw a hollol naturiol a luniodd, a’i ddychan arbennig yn sicr yn addo pethau mawr o’i ysgrifbin yn y dyfodol. Felly yn wir y bu. ... Diolch i ymroddiad a gwybodaeth helaeth y golygydd yntau, cawn fanteisio ar ragymadrodd cymen a phwrpasol llawn perlau o wybodaeth, nodiadau manwl, gafaelgar dros ben, llyfryddiaeth ddethol o weithiau perthnasol, ynghyd â rhestr o eiriau prin a fydd yn gymorth mawr i’r darllenydd i sicrhau mynediad i fyd ac oes Daniel Owen.’ – Y Cymro.
‘Mae’r argraffiad newydd hwn yn cynnwys rhagymadrodd gwerthfawr gan Robert Rhys sydd nid yn unig yn olrhain hanes y nofel ond yn egluro hefyd sut yr aeth ati i olygu’r gwaith. Ceir nodiadau yn y cefn sy’n rhoi eglurhad ar rai o’r cyfeiriadau hanesyddol ac ysgrythurol sy’n britho’r nofel ac a allai fod yn ddieithr i ni heddiw. ... Mae eironi, hiwmor a dychan Daniel Owen yn brigo i’r wyneb dro ar ôl tro, a’i ddiddordeb yn y natur ddynol (a’i gydymdeimlad gyda phobl) i’w weld ar bob tudalen. ... Roedd hi’n hen, hen bryd i’r nofel hon weld golau dydd unwaith eto.’ – Gwales.
​
‘Golygiad ardderchog yw’r gwaith hwn o un o lyfrau cynharaf Daniel Owen, Y Dreflan. Cynhwyswyd rhagymadrodd cynhwysfawr gan y golygydd, Robert Rhys, ynghyd â nodiadau gwerthfawr, llyfryddiaeth a geirfa. ... Mae’n ddiamau gennyf y bydd llawer o’r nodiadau yn gymorth mawr i amryw o’r darllenwyr, yn enwedig disgyblion ysgol a myfyrwyr y colegau. Yn y rhain esbonnir gwaith ac arwyddocâd amryw o bersonau, sefydliadau a chymdeithasau nad ydynt yn gyffredin heddiw, ynghyd â goleuni ar eirfa a chyfeiriadau Beiblaidd. ... Fe hwylusir a chyfoethogir y mwynhad a geir o ddarllen y cwbl gan fanteisio ar yr arfau hyn.’ – Y Traethodydd.