EIRA LLYNEDD AC YSGRIFAU ERAILL
‘ “Lle heno eira llynedd” oedd cwestiwn Villon ganrifoedd yn ôl, a diau bod W.J. yn “eira llynedd” i lawer erbyn hyn, a chymwynas oedd dod â pheth o’i waith i olau dydd unwaith eto er mwyn inni gael ei ailasesu o’r newydd a sylweddoli bod ei gyfraniad yn arbennig ac unigryw iawn.’ – Gwales.
‘Yn hollol ar wahân i’r deunydd am Gruffydd ei hun, ceir o fewn yr ysgrifau hyn oll ddarlun bywiog o Gymru rhwng 1910 a 1950, portread a fydd efallai yn agoriad llygad sylfaenol i ddarllenwyr cyfoes ein cyfnod ni. ... Darperir ar ein cyfer yn ogystal wledd o ddarllen mewn Cymraeg caboledig a disglair.’ – Y Cymro.
‘Mae swm yr wybodaeth ddefnyddiol a chynhwysfawr a gyflwynir mewn cyn lleied o le, a hynny mewn modd trefnus a thaclus, yn gamp anhygoel.’ – Eco’r Wyddfa.
‘Ceir Rhagymadrodd diddan a goleuedig gan y golygydd, sy’n lleoli W.J. Gruffydd ym myd meddyliol a llenyddol ei gyfnod, yn dangos ei gryfderau ac yn craffu ar ei ambell wendid.’ – Y Casglwr.