THOMAS PARRY: DWY DDRAMA
‘Mae’r gyfres nodedig “Cyfrolau Cenedl” (cynnyrch gwasg Dalen Newydd, Bangor) yn parhau i fynd o nerth i nerth, gyda’r cyfrolau’n ymddangos yn hynod gyflym un ar ôl y llall ers rhai blynyddoedd bellach. ... Ac mae pob un o’r llyfrau hyn wedi ei gynhyrchu i’r safonau uchaf, yn bleser pur eu trin a’u trafod. ...
Mae llawer iawn o feirniaid llenyddol dros y blynyddoedd, a Dafydd Glyn Jones yn eu plith, wedi tynnu cymariaethau rhwng drama feistrolgar Tom Parry a drama fythol enwog Saunders Lewis sef Siwan, gwaith hyd yn oed mwy adnabyddus. ... Ac yn sicr gellid darllen y ddwy ddrama hyn ochr yn ochr gyda’i gilydd yn broffidiol ddigon. Ac awgrymir yma fod penderfyniad Tom Parry i lunio ei waith ar Lywelyn Fawr yn hwb mawr i Saunders Lewis i fynd ati i lunio ei ddrama ef ar Siwan. Edrychwn ymlaen yn eiddgar at weld cyhoeddi cyfrolau a thestunau pellach yn y gyfres arloesol hon.’ – Y Cymro.
‘I’r rhai ohonom sy’n ymddiddori ym myd y ddrama ac yn ymhel â sgriptiau, boed hynny i ddadansoddi’r testun neu ar gyfer eu perfformiio, y mae’n brofiad rhwystredig iawn treulio dyddiau, ac weithiau wythnosau, yn chwilio am gopïau o ddramâu Cymraeg cynnar sydd bellach allan o brint. A phrofiad siomedig iawn, ambell dro, yw gorfod rhoi’r ffidil yn y to, a gorfod wynebu’r posibilrwydd nad oes copïau’n bodoli o gwbl. Gyda breichiau agored felly y croesawn gyfrol ddiweddaraf y cyhoeddwyr Dalen Newydd. ...
Mae’r holl atodiadau a geir yn y gyfrol, yn ogystal â rhagymadrodd cynhwysfawr y golygydd, yn ffynonellau hynod werthfawr a defnyddiol ar gyfer rhai sydd â diddordeb, nid yn unig yn y dramâu penodol hyn, ond ym maes y ddrama yn gyffredinol.
Rwy’n sicr y byddai’n fuddiol ac yn ddiddorol iawn i’r rhai sy’n astudio Siwan ... daro golwg ar Llywelyn Fawr gan gymharu’r gweithiau o ran eu hieithwedd, cynnwys, safbwynt, cymeriadau a themâu. A diolch i Dalen Newydd, mae modd gwneud hynny’n rhwydd heb orfod treulio dyddiau’n chwilio am gopi !’ – Y Llef.
Profiad amheuthun oedd mynd drwy’r gyfrol a chael eich arwain yn ôl at Eliot ac at weithiau eraill. Y mae bod clasuron yr iaith allan o brint yn broblem ers blynyddoedd lawer. ... Diolch am gyfres sy’n rhoi cynnig glew ar sefyll yn yr adwy. – Barn.