top of page

Y DDAU GYFAMOD

' Am y tro cyntaf ers dwy ganrif a hanner dyma weld Y Ddau Gyfamod, anterliwt Elis y Cowper (Ellis Roberts, c.1712-89), mewn print.  Llongyfarchiadau i wasg Dalen Newydd am ei mentergarwch, ac i A. Cynfael Lake am ei olygiad gofalus ohoni. ...

 

Rhwng creu a thrwsio casgenni, datblygu’n faledwr mwyaf toreithiog ei oes, yn anterliwtiwr craff, priodi pedair gwraig a magu deg o blant, pwy a ŵyr nad Ellis Roberts oedd dyn prysuraf y ddeunawfed ganrif.  Arferai ddiota’n ddrwg, ac efallai mai wrth hel tafarnau y clywodd yr hanesion ysgytwol a'r straeon syfrdanol a roddodd ddeunydd mor ardderchog-gymwys iddo ar gyfer ei gyfansoddiadasu.  Erbyn cyfnod Y Ddau Gyfamod (1777), fodd bynnag, roedd y meddwyn uchel ei gloch hwn wedi altro’i ffordd, a sain digon syber sydd i’w seithfed anterliwt (o’r deg a ddiogelwyd) o gymharu â’i rai cynnar.   ...

 

Bardd gwlad, neu’n fanylach bardd y stryd efallai, oedd Elis y Cowper, a’r her i olygydd y gyfrol hon oedd trosi testun llafar o’r ddeunawfed ganrif yn destun argraffedig yn yr  unfed ganrif ar hugain heb golli dim o rin y gwreiddiol.  Cyflwynwyd yma waith manwl ar ffurf rhagymadrodd cyfoethog ei gynnwys a’i arddull ac sy’n bleser ei ddarllen   ...

           

Mwynheais yn fwy na dim gael clywed tinc yr iaith lafar yn ogystal â’r iaith lenyddol wrth i’r Cowper gynnal odlau ac idiomau gloyw ei dafodiaith.   ... Prynwch y gyfrol a chewch eich swyno a’ch difyrru ganddi.'  – Rhiannon Ifans, Y Traethodydd.

bottom of page