top of page

RHYWBETH YN TRWBLO

‘Wn i am ddim byd cystal â stori ysbryd dda i danio’r hen iasau a’r ofnau cyntefig. ... Mae yn y casgliad hwn straeon byrion gan nifer o lenorion amlycaf ac enwocaf ein gwlad, rhai’n glyfar a chrefftus dros ben. ... A Chalan Gaeaf yn nesu, dyma anrheg addas i’w rhoi i gyfaill neu gyfeilles ofergoelus, neu i unrhyw un sy’n mwynhau stori dda o flaen y tân ar noson aeafol, stormus.’ – Gwales.

 

‘Roedd yn hen bryd i gyfrol fel hon ymddangos. Clod i’r bugail Jones am gorlannu’r straeon, a hefyd am eu gosod yn ôl trefn eu cyhoeddi fel ein bod yn cael darlun o hanes a datblygiad y stori ysbryd Gymraeg. ... Diolch i Dafydd Glyn Jones am baratoi cyfrol mor ddifyr ar ein cyfer, a gobeithio y bydd o’n mentro eto i’r maes hwn yn fuan iawn.’ – Barn.

 

‘Tybiaf fod mwy i’r gyfrol hon nag ychydig o hwyl yn unig. Y mae hi’n llenwi bwlch yn hanes llenyddiaeth Gymraeg yn sicr, ac yn fan cychwyn gref i unrhyw un sydd â diddordeb yn y stori ysbryd Gymraeg.’ – Tu Chwith.

bottom of page