top of page

Y PORTHWLL

‘Mae Elidir Jones wedi llwyddo i greu cyfrol lawn cyffro a drama. ... Buan iawn y cewch chi’ch sugno i ganol y stori (effaith y Porthwll, efallai ...). Mae’n nofel ddarllenadwy iawn, mae ganddi gymeriadau cryf ac mae’r plot yn symud yn ei flaen yn naturiol heb din-droi’n ormodol o amgylch un digwyddiad. ...

 

Gobeithio’n wir y bydd Elidir Jones yn dal ati i sgwennu — dyma un maes lle mae dirfawr angen awduron Cymraeg.’ Dorian Morgan, Gwales

 

‘Cryfder y nofel ydi’r modd yr aethpwyd ati i ddangos y gwahaniaeth rhwng bydoedd Cai Un a Cai Dau a hynny heb fynd yn orgymhleth. Mân iawn ydi’r gwahaniaethau i ddechrau arni ond cyn bo hir dônt yn fwy dramatig. Gan fod y gwahaniaethau yn digwydd mor raddol ac wedi eu seilio ar agwedd Cai yn aml, mae darganfod sut y mae camgymeriadau bychain yn esgor ar ganlyniadau dybryd yn hynod o ddifyr. ...

 

Dyma nofel sy’n gyfraniad at y canon Cymraeg o ffuglen wyddonol heb os. Mae’n fan cychwyn da i unrhyw ddarllenwyr sy’n troi at sgrifennu fel hyn am y tro cyntaf, ac i ffyddloniaid y genre mae yna hen ddigon i’w fwynhau.’ LlÅ·r Titus, Barn.

bottom of page