top of page

LLYTHYR GILDAS A DINISTR PRYDAIN

‘Yn y gyfrol a adolygir yma ceir y testun Lladin wedi’i argraffu ar y naill ddalen, a throsiad ohono i’r Gymraeg – mewn cyfieithiad urddasol a thra darllenadwy – ar y ddalen gyferbyn. Y mae hynny ynddo’i hun yn beth i’w groe4sawu a’i ddathlu.

      Mae yma gyfieithiad a ddylai yn wir ennyn diddordeb newydd yn ein plith yng ngwaith Gildas ac yn nirgelion y cyfnodau creiddiol yn ein hanes y mae’n tystio iddynt.

      Wrth longyfarch Iestyn ar ei waith, yn arbennig yn y cyfieithiad, mae’n briodol diolcvh  hefyd i Dafydd Glyn Jones a Dalen Newydd, ac i’r cynllunwyr a’r argraffwyr, am eu menter a’u medr yn ymgymryd â chyhoeddi cyfrol faith a chymhleth ei llunwedd fel hon. At hynny mae maint y print a’r gofod rhwng y llinellau yn dra charedig wrth y darllenydd. ... Braf iawn hefyd cael, ar y clawr, lun o Gaer Deganwy, “lle teyrnasai Maelgwn Gwynedd, ‘Draig yr Ynys’”. Beth, tybed, a fyddai dyfarniad Gildas ar y cychod pleser yn y bae?’  –  Dwned.

​

‘Golygiad a chyfieithiad newydd o’r ddogfen a briodolir i Gildas yw’r gyfrol hon. Cyfrol arbennig o bwysig ac arwyddocaol, gyda Rhagymadrodd hirfaith a threiddgar sy’n trafod a chefnogi damcaniaeth A.W. Wade-Evans a’i ddisgybl J.P. Brown taw dau waith a geir yma, nid un. ...

            Cawn fwynhad mawr o ddarllen y cyfieithiad Cymraeg o Ladin y ddau destun ochr yn ochr, yn arbennig gan ei fod yn fwriadol yn dilyn llif y testun Lladin yn agos o ran trefn geiriau ac idiomau, gan gadw at strwythur brawddegau gor-hir. ...

            Ynghlwm wrth hyn, nodwedd bwysig iawn o’r Rhagymadrodd yw’r dadansoddiad manwl o’r amryw ffyrdd y parhaodd Rhufeindod yn ddylanwad diwylliannol, gwleidyddol a chyfreithiol ar diriogaeth y rhannau hynny o Ynys Prydain a ddaeth dan lywodraeth yr Ymerodraeth. ...

            Cyfrol i ysgolheigion sydd yn arbenigo ar lenyddiaeth Lladin Cymru’r Canol Oesoedd yw hon, ond mae iddi arwyddocâd ehangach digon amlwg, sef argyhoeddi darllenwyr o Gymry cyfoes taw Llythyr Gildas ac nid Dinistr Prydain yw’r gyfrol y dylent gymryd o ddifrif fel y gwaith sy’n annerch eu cyndeidiau.  – Y Traethodydd

bottom of page