top of page

WELE WLAD

      Ac mae colbio dihidrwydd yn ganolog yn ‘Wele Wlad’.  Mae Prifysgol Cymru (pan oedd hi, neu os ydi hi) a’r ymgyrch ddiarbed i’w llofruddio yr un mor gabnolog ynddo. ‘Brad a Dinistr Prifysgol Cymru’ yw is-deitl erthygl olaf a hwyaf y llyfr, erthygl sy’n olrhain hanes y difodiant, ac a gyhoeddwyd yn wreiddiol mewn dau bamffled yn 2012 a 2013 ...

      Casgliad o ddarlithoeddd, erthyglau ac adolygiadau sydd yma, i gyd wedi ymddangos o’r blaen mewn print neu ar flog, a phob un mor feddylgar â’i gilydd. Pwnc canolog arall yn y llyfr yw’r iaith, gan ganolbwyntio ar ei gramadeg a’i chystrawen a’r dulliau cyfoes o’i sgrifennu.  Yn y cyd-destun hwn, mae’r adolygiad o ‘Gramadeg y Gymraeg’, Peter Wynn Thomas, yn berl, yn profi bod yr adolygydd wedi treulio ei yrfa yn meddwl am ei waith yn ogystal â’i gyflwyno. Mae ‘Llond Twb o Swigod’, sy’n ymateb i adroddiad ‘Dyfodol Llwyddiannus’, swp o rwts digymar am ‘drefniadau asesu’ (debyg iawn) yn y byd addysg, yn berl o fath tra gwahanol. ...

      Mae o bryd i’w gilydd anobeithio ynglÅ·n â rhai agweddau o hynny o’r byd Cymreig a’i bethau a drafodir yn y llyfr, ond mae’r ergydion cyson o hiwmor pur a dychan yn gofalu nad yw’n llyfr pruddglwyfus.   ...  Cewch yma werth eich pymtheg punt.   – Y Casglwr.

​

‘Un o rinweddau mawr y llyfr hwn yw eglurder a bywiogrwydd a darllenadwyedd arddull yr awdur, beth bynnag yw ei bwnc.

Mae llawer yn y Gymru gyfoes sy’n dân ar ei groen, ac mae’n dychwelyd at y materion hyn yn aml – Wylfa Newydd a Trident (ac yn sicr mae cysylltiad rhwng ynni niwclear sifil ac arfau niwclear), yr hyn a ddigwyddodd i Brifysgol Cymru, helynt ysgolion Gwynedd, iaith ryfeddol y byd addysg modern ac yn y blaen. ... Ydi mae DGJ a Glyn Adda yn gallu bod yn grac iawn weithiau, ond os darllenwch chi’r llyfr hwn fe ddewch i ddeall pam ac fe gewch lawer i gnoi cil arno wrth feddwl am “bethau yng Nghymru”.’   – Y Traethodydd​

bottom of page