top of page

PRYDNAWNGWAITH Y CYMRY

‘Y mae Prydnawngwaith y Cymry yn hyfrydwch bwriadol i’r glust, ac amrywiaeth ei eirfa, ei rethregu, ei ymadroddion cwta crafog, ei ddarluniau geiriol o gymeriadau, ei frawddegu gofalus, oll yn dystiolaeth fod yma un a oedd yn ymboeni am ei ysgrifennu am ei fod yn hoff o sŵn iaith a phosibiliadau mynegi.’ – Cylchgrawn Hanes Cymru.

 

‘Mae’r testun wedi’i benodi’n daclus yn ôl enwau gwahanol dywysogion yn ôl trefn amser, ac yn seiliedig ar y Brut. I’r rhai sy’n credu eu bod wedi darllen digon o lyfrau am yr oes honno, tybed faint o straeon fedran nhw eu hadrodd am Idwal Foel, Cadwallon ap Ieuaf a Llywelyn ap Sitsyllt?

Yn ogystal â hanes y tywysogion cynhwysir ysgrifau a cherddi yn y gyfrol – ysgrifau ar gymeriadau tylwyth teg a llên gwerin y misoedd, a cherddi baledol yn bennaf.’ – Llafar Gwlad.

 

‘I’r rhai hynny sy’n darllen y Rhagymadrodd i’r gyfrol ac yn gweld y golygydd yn olrhain tras Prydnawngwaith y Cymry yn ôl i Frut y Tywysogion, mae yma gyfoeth.’ – Taliesin.

 

‘Da yw cael y testun hwn er mwyn ein hatgoffa bod pob cenhedlaeth yn mynegi ei hagwedd at handes yn ôl ei barn – ac weithiau ei rhagfarn – ei hunan.

Cymwynas bellach gan y golygydd oedd ychwanegu pump o ysgrifau a 25 o gerddi o waith William Williams, sy’n datgelu agweddau eraill ar ei ddawn. Ceir nodiadau, llyfryddiaeth a geirfa i gloi’r gyfrol ddifyr a dadlennol hon.’ – Y Traethodydd.

bottom of page