top of page

KATE ROBERTS: TAIR DRAMA

‘Dyma gyfrol haeddiannol iawn o’i lle yng nghyfres ardderchog Dalen Newydd, Cyfrolau Cenedl, sy’n dwyn i olau dydd weithiau fu allan o brint neu a aeth yn anghofiedig. . ... [C]eir Rhagarweiniad swmpus i waith dranataidd yr awdur gan y golygydd Diane Pritchard-Jones.

‘Diau y bydd y gyfrol i’w chreoesawu’n fawr gan edmygwyr gwaith Kate Roberts, gan ei bod yn goleuo rhai agweddau anghyfarwydd ar ei gwaith a’i gweledigaeth fel llenor. Un o gymwynasau mwyaf y Rhagarweiniad yw ei fod yn gosod diddordeb Kate Roberts mewn drama yng nghyd-destun nid yn unig ei ffuglen, ond hefyd dwf mudiad y ddrama amatur yng Nghymru tua throad yr 20g. Mae’n awgrymu bod drama yn gyfrwng arall i Kate Roberts ei mynegi’i hun fel artist gan ehangu ein hargraff ohonoi fel unigolyn creadigol: fe’i gwelwn fel ffigwr a oedd yn ymhél yn arbrofol a mentrus gyda nifer o ffurfiau cyfoes, yng nghanol bwrlwm o fywyd creadigol cymhleth a chyfansawdd.‘

 

Am Ffarwel i Addysg: ‘[M]ae’n ddrama ac iddi ddiddordeb theatrig gwirioneddol. Ymdrinia â gwrthdaro dramataidd sylfaenol, sef rhwng grym gwirionedd y foment bresennol ac ‘economeg’ y fargen y mae rhywun – ac yn yr achos hwn yn neilltuol, merch – yn ei daro â chymdeithas er mwyn medru cyd-fyw ag eraill.’

 

– Roger Owen, Barn.

‘Daeth y diweddar Dr Kate Roberts (1891-1985) i amlygrwydd cenedlaethol arbennig fel awdur nifer sylweddol o nofelau a straeon byrion ... Yn fynych iawn tueddir i anghofio neu efallai i ddibrisio ei chynnyrch pwysig fel dramodydd disglair dros y blynyddoedd. ... Mawr yw ein diolch i Diane Pritchard-Jones am y cyfle hwn i ddarllen tair o ddramâu mwyaf diddorol Kate Roberts.

 

Profiadau dyddiau coleg yw prif thema Ffarwel i Addysg, drama a luniwyd yn wreiddiol ym 1931, ond yn rhyfedd iawn ni chafodd ei darlledu ar y radio tan y flwyddyn 1950. Prif thema’r gwaith yw anniddigrwydd ynglŷn â safle merch mewn amodau caethiwus, mater a oedd yn agos iawn at galon Dr Kate ...

 

Ym 1954 y darlledwyd Y Cynddrws ar y radio am y tro cyntaf. Roedd y ddrama hon yn torri cwys hollol newydd i’r awdur gan iddi droi at yr arallfyd, sef y byd tu hwnt i’n byd ninnau, fel cyd-destun ar gyfer y gwaith. ... Dengys cynnwys a phwyslais y gwaith i Kate Roberts ehangu ei gorwelion yn arw erbyn y cyfnod hwn.

 

Mewn cymhariaeth, sgets fer yw Aros Wrth Loco, drama fach a luniodd Kate Roberts, yn ôl pob tebyg, tua’r flwyddyn 1960.  Ei thema yw taith ar y trên gan dair o ferched sy’n cael profiadau lled anghyffredin tra’n teithio. ... Nodweddir y sgets gan deyrngarwch Dr Kate i’w milltir sgwâr yng nghyffiniau tref Dinbych, a’r awgrym yw fe’i lluniwyd i gynnig adloniant i gymdeithas leol yn y dref hon.’

 

– J. Graham Jones, Y Cymro.                   

 

‘Mae’r dramâu hyn yn sicr yn rhoi golwg newydd ac annisgwyl i’r rhan fwyaf ohonom ar waith yr awdur o Rosgadfan, “Brenhines ein Llên”.

 

Yn ei rhagymadrodd trylwyr a diddorol i’r tair drama hyn, Ffarwel i Addysg (1931), Y Cynddrws (1954) ac Aros wrth Loco (tua 1960), mae Diane Pritchard-Jones yn olrhain cysylltiadau Kate Roberts â byd y ddrama o’u dechreuadau ym 1915, pan aeth yn athrawes ifanc i Gwm tawe a dod yh rhan o fwrlwm bywyd diwylliannol y fro honno, yn addasu, cyfansoddi a chyfieithu dramâu i’w performio ghyda dwy o’i chydathrawon yn Ysgol y Sir, Ystalyfera. ...

 

Sgets estynedig yw Aros wrth Loco i bob pwrpas, ychydig o hwyl a dim mwy i ddiddanu cynulleidfa yn ardal Dinbych, bro fabwysiedig Kate Roberts er 1935. Mae’n dangos synnwyr digrifwch sy’n fwy smala a ffwrdd-â-hi.

 

Ffarwel i Addysg yw’r fwyaf diddorol o’r tair drama sydd yn y gyfrol hon, mae’n debyg. Wrth feddwl am ddramâu’r oes honno yn y tri degau, dramâu cegin a gweithiau barddonol Saunders Lewis yw’r rhai mwyaf cyfarwydd heddiw. Ond mae drama Kate Roberts yn dalp o fywyd go iawn a’r stori sydd ynddi’n un a fyddai’n cydio yr un fath heddiw. ...

 

Drama ffantasïol yw Y Cynddrws, “sefyllfa therapi grŵp” meddai Diane yn ei rhagymadrodd, ystafell lle mae pobl o’r byd hwn yn gorfod disgwyl eu tro cyn mynd i’r byd nesaf. Chwe chymeriad sydd yn y ddrama, a Goronwy Owen y bardd o Fôn yn eu plith.  Un arall yw Siôn Llwyd “hen drampar o Sirn Gaernarfon” sydd, wrth gyrraedd yr ystafell, yn canu baled “Pentra Pen-y-groes”: ai ein Pen-y-groes ni yw hwn, a’r geiriau’n sôn am “sofrins eto yn rowlio hyd bentra Pen-y-groes”? A oes darllenwyr Lleu sy’n gwybod am y faled hon?’

 

– Cris Jones, Lleu.

© 2015 gan ELIDIR JONES. Wedi ei greu drwy Wix.com

bottom of page