top of page

YR HEN LYFRAU BACH

‘Gwyddom oll erbyn hyn am y gyfres ysblennydd ‘Cyfrolau Cenedl’, cyfres a lansiwyd ychydig o flynyddoedd yn ôl gyda’r nod o ‘ddwyn i olau dydd weithiau diddorol a fu un ai allan o brint neu yn anghofiedig’. ... Yr un yn union yw’r nod gyda’r gyfres fach bresennol, sef ‘Yr Hen Lyfrau Bach’. ... Ardderchog o beth yw gweld y pris rhesymol a godir am y pecyn presennol – dim ond £10 am bedwar llyfr hardd eu diwyg, hollol hylaw. Byddant oll hefyd yn ffitio’n hawdd ac yn hwylus yn y boced. Maent oll yn wir yn ‘ffitio poced y Cymro o ran maint ac o ran pris’. – Y Cymro.

​

'Mae Dafydd Glyn Jones yn credu’n gryf ers blynyddoedd ei bod hi’n gywilydd fod cymaint o lenyddiaseth Gymraeg yr oesau heb fod ar gael i ddarllenwyr heddiw, neu, a bod yn fwy manwl, i brynwyr heddiw. Mae llawer o ddeunydd allan o brint ers blynyddoedd, llawer mewn argraffiadau a gyhoeddwyd flynyddoedd yn ôl, a llawer o ddeunydd ar wasgar mewn papurau newydd neu gylchgronau. Ar ôl iddo ymddeol, yn hytrach na chwyno am y sefyllfa, fe aeth ati i wneud rhywbeth ...

​

Un o nodweddion y Golygydd yw catholigrwydd ei chwaeth a’i agwedd werthfawrogol o waith pawb sydd wedi cyfrannu at gorff ein llenyddiaeth. ...

​

Mae’n rhaid tynnu sylw at safon y golygu yn y gyfres hon. ... Mae dyn yn gwybod y gall ddibynnu ar y golygydd i gopïo testunau’n fanwl gywir, hanfod cyntaf y golygydd llwyddiannus. Ond, wrth gwrs, y mae yma lawer yn fwy na hynny yn ac arbennig felly yn y cyflwyniadau. Ychydig dudalennau yw’r cyflwyniadau, ond y mae ynddynt gyfoeth o wybodaeth ac arweiniad a deunydd meddwl.

​

Prin iawn yw’r beirniaid a’r ysgolheigion a allai arwain dyn mor sicr ar hyd cynifer o wahanol lwybrau ag a wneir gan Dafydd Glyn Jones yn y llyfrau hyn, ac yn Cyfrolau Cenedl wrth gwrs.' – Y Traethodydd.

​

Y Bardd Cocos

 

‘Derbyniais drysor o lyfr yn ddiweddar, un bach iawn o ran maint a dim ond 90 tudalen. Ond mae ei gynnwys yn wefreiddiol. Y gyfrol yw ‘Y Bardd Cocos’, y cyntaf mewn cyfres newydd sef ‘Hen Lyfr Bach’. ... Prynwch y gyfrol. Dim ond teirpunt yw ei phris.’ – Lyn Ebenezer, Y Cymro.

​

Lloyd George

​

‘A thestun balchder eithriadol i’r adolygydd presennol yw gweld y golygydd yn penderfynu cynnwys cyfrol fechau o ddywediadau ffigiwr nad yw’n llenor, ond ein gwleidydd Cymreig amlycaf a mwyaf dylanwadol erioed sef David Lloyd George (1863-1945). Hyd y gwn i nid aeth neb ati erioed cyn hyn i gasglu ynghyd gyfrol o ddywediadau a darnau o areithiau cyhoeddus enwog a dylanwadol Dewin Dwyfor. Mae’n amlwg y bu Dafydd Glyn Jones yn darllen yn eang ac yn feddylgar wrth ymchwilio ar gyfer y llyfryn hwn a phenderfynu ar natur ei gynnwys. ... Dywed y golygydd wrthym mai ei nod oedd “cyflwyno Lloyd George yn ei ddillad gorau, gan osgoi’r dyfnderoedd o sentiment a chelwydd y gallai ef ddisgyn iddynt pan farnai hynny’n fanteisiol”. Ac yr wyf innau’n bendant yn gallu dweud “Amen” i’r gosodiad hwn.’ – Y Cymro.

​

John Morris-Jones: Omar Khayyâm

​

‘Yn ddios y gwychaf o’r cyfieithiadau a welodd olau dydd yng nghyfrol 1907, a’r mwyaf parhaol ei werth hyd at heddiw ... yw penillion Omar Khayyâm. Yr oedd glendid iaith a cheinder ymadroddd yr holl gyfrol yn amheuthun iawn yn ei dydd, ac yn enghraifft i feirdd Cymraeg o’r hyn y mynnai’r awdur iddynt hwythau ymgyrraedd ato. ... [M]ae’n dda gweld y gwaith pwysig hwn yn ôl mewn print yn hwylus ddigon unwaith eto. A chynhwysir yn ogystal ragymadrodd gwreiddiol Syr John Morris-Jones i gyfrol 1907 ynghyd â llyfryddiaeth ddethol o gyhoeddiadau perthnasol a fydd o gymorth mawr i’r darllenydd heddiw.’ – Y Cymro.

​

‘Nid y lleiaf o gymwynasau’r Wasg gymwynasgar hon yw’r argraffiad newydd ac mae’n ardderchog fod cyfieithiad John Morris-Jones ar gael yn rhwydd unwaith eto.’ – Y Casglwr.

​

Twm o'r Nant yn Cofio

​

‘Twm o’r Nant yn Cofio yw teitl y drydedd gyfrol fechan o fewn y pedwarawd presennol. ... Roedd ei fywyd hollol amrywiol yn llawn helbul, trafferthion a adlewyrchir yn bwerus dros ben yn ei hunangofiant a luniodd yn frwdfrydig ychydig cyn diwedd ei oes ..., y cyntaf o’i fath erioed mewn rhyddiaith yn yr iaith Gymraeg. ... Yn ogystal gwelwyd yn dda i gynnwys saith cerdd allan o’r gyfrol Canu Twm o’r Nant lle mae Twm yn rhoddi sylw pellach i’w fywyd a’i weithgareddau. – Y Cymro.

​

Cerddi Goronwy Owen

​

‘Tua chanol y ddeunawfed ganrif bu Goronwy Owen yn gyfrifol am roi hwb sylweddol i ysgrifennu barddoniaeth Gymraeg, cerddi oedd yn adlewyrchu pynciau a themâu cyfoes a chan ddilyn patrymau llenyddol a oedd yn ffasiynol yn llenyddiaeth Saesneg. Yn gefndir i’r cyfan mae problemau personol Goronwy Owen ei hun, ei ddyheadau mewn bywyd a’r siomedigaethau enbyd a ddioddefodd ar hyd y daith.

​

A diolch i ysgolheictod digymar Dafydd Glyn Jones, cawn fanteisio ar gyflwyniad cymen a phwrpasol, ugain tudalen o nodiadau esboniadol sydd yn goleuo cynnwys y cerddi i ddarllenwyr cyfoes, llyfryddiaeth ddethol fer, a rhestr o rai o’r geiriau llai cyfarwydd a ddefnyddir gan y “bardd o Fôn” yn ei gerddi. Mae’r gyfrol fach hon yn gymar gwych i Llythyrau Goronwy Owen a gyhoeddwyd ... yn y gyfres “Cyfrolau Cenedl” ryw ddwy flynedd yn ôl.’ – Y Cymro.

​

‘Rhoddir deunaw o gerddi’r prydydd o Fôn yn ddestlus, ... y rheini yn cael eu rhagflaenu gan “Gyflwyniad” ac yn cael eu dilyn gan “Ambell Nodyn”, “Llyfryddiaeth Fer” a “Geirfa”. Gan arfer ei braffter arferol ceir y golygydd yn dwyn sylw at ambell beth na wawriodd arnom o’r blaen.’ – Tlysau’r Hen Oesoedd.

​

Pecyn 4

​

'Chwaer gyfres i Cyfrolau Cenedl yw’r Hen Lyfrau Bach.  Mae’r pedwar llyfr diweddaraf yn ein cludo o gyfnod y Chwyldro Ffrengig, heibio i oes dyrchafiad y trên ac ymlaen at dwf a chwymp mudiad Cymru Fydd. 

​

Mae cyflwyniadau Dafydd Glyn Jones i’r cyfrolau hyn yn wefreiddiol o dreiddgar.  Tra’n gwerthfawrogi clasuroldeb Dafydd Ddu Eryri ymosodir ar ei safbwyntiau adweithiol a thaeogaidd.   Mae ei ymosodiadau ar Iolo Morganwg a Thwm Paen a’i gân yn dathlu adferiad Siôr III yn cadarnhau’r farn amdano.      

           

Gwaith Ceiriog, bardd mwyaf poblogaidd y ganrif o ddigon, sydd yn yr ail gyfrol. Cynigiai ei Alun Mabon gysur a diddanwch i’r Cymry alltud yn ninasoedd Lloegr wrth iddynt hiraethu am eu cefndir gwledig.  Ond yn ôl Dafydd Glyn Jones, dyma fardd a wyddai lawr mwy am y trên nag am ddilyn yr arad goch.

            

Mae gan y golygydd, heb os, feddwl mawr o John Morris-Jones.  Dyma’r trydydd tro iddo gyhoeddi peth o’i waith yn y cyfresi hyn. Rhoddir y lle blaenaf y tro hwn i’w awdlau ‘Cymru Fu, Cymru Fydd’ a’i ‘Salm i Famon’ ynghyd â deunaw o’i delynegion gorau.  Cofebau i Gymru Fydd yw’r ddwy awdl yn ôl Dafydd Glyn Jones ac fe ddisgrifia fethiant y mudiad hwnnw fel ‘un o drychinebau hanes Cymru.’

 

Bully, Taffy a Paddy a Gweithiau Eraill gan Emrys ap Iwan yw’r unig gyfrol o ryddiaith yn y casgliad a rhaid dweud fod yna rywbeth eithriadol o gyfoes am y gwaith. ... Mae ei eiriau yr un mor berthnasol heddiw ag erioed.' – Dafydd Morgan Lewis, Y Traethodydd.

bottom of page