top of page

HEN DDALENNAU

‘Casgliad yw hwn o amryw fathau o ysgrifau llenyddol, yn adolygiadau, yn erthyglau ac yn ddarlithoedd. ...[D]a yw eu cael gyda’i gilydd yn hwylus fel hyn oherwydd maent yn ffurfio corff o feirniadaeth lenyddol eangfrydig gyda chryn unoliaeth thematig.

 

Mae rhychwant y casgliad yn eang dros ben yn amseryddol ac o ran y mathau o lenyddiaeth sydd dan sylw, o’r cyfnod ôl-Rufeinig hyd yr ugeinfed ganrif, gan drafod hanesyddiaeth, chwedlau a nofelau, barddoniaeth a’r ddrama, a’r rheiny’n destunau Lladin a Saesneg yn ogystal â’r Gymraeg, sef, a dyfynnu’r geiriau sy’n cloi ysgrif olaf y gyfrol, “maes eithriadol helaeth llên y Cymry”.

 

... [G]werthfawrogol ac adeiladol yw ei agwedd yn gyson, gyda meddwl agored sy’n croesawu pob ysgogiad i weld pethau o’r newydd. ... Brwdfrydedd deallus yr awdur yw un o’r pethau mwyaf calonogol am y casgliad hwn o ysgrifau. ... Mae’r ysgrifau bywiog a threiddgar hyn yn cyfleu cyffro meddyliol y profiad o ddarllen, ac maent yn haeddu darllenwyr niferus.’  – Dafydd Johnston, Y Traethodydd.

bottom of page