top of page

IAWN BOB TRO

‘Dydi hiwmor a llyfrau gramadeg ddim yn mynd efo’i gilydd fel rheol, ond nid felly “Iawn Bob Tro” gan Dafydd Glyn Jones, a ddisgrifir fel “help bach i”r ysgrifennwr”. Mae’n canolbwyntio ar y prif wendidau a welir mewn llawer o sgrifennu Cymraeg y dyddiau hyn. Ei gyngor am y termau hunan-bwysig a chyfieithiedig a welir yn amlach ac amlach, ydi y “gellir eu defnyddio’n gynnil iawn mewn cyd-destunau arbenigol yn unig, a hynny gyda phapur doctor. Ond gall y Cymro call fynd drwy fywyd heb eu defnyddio o gwbl.”’– Llanw LlÅ·n.

​

Tystiolaeth myfyrwraig:
"Rwy' wedi mynd i'r arfer o fynd ag o gyda mi i bob man."

 

Tystiolaeth dramodydd o Gymro:
"Nid llyfr y flwyddyn ond Llyfr y Degawd. Anhepgorol. A chrafog. Mae 'Ac ara' deg eto' yn werth y pris ynddi ei hun."

bottom of page