top of page
Dyma ddwy anterliwt o waith Thomas Edwards (Twm o'r Nant) na welsant olau dydd ers llawer, llawer blwyddyn. Golygwyd a chyhoeddwyd 'Cyfoeth a Thlodi' ddiwethaf gan Isaac Foulkes ym 1874, gydag ail argraffiad, 1889. Ni chyhoeddwyd 'Tri Chydymdaith Dyn' oddi ar ei hargraffiad cyntaf, 1769 mae'n debyg. Bydd y golygiad newydd hwn, gyda rhagymadrodd, nodiadau a geirfa, yn gyfraniad sylweddol tuag at yr ailddarganfod sydd y dyddiau hyn ar lenorion gwerinol y ddeunawfed ganrif, ac yn dystiolaeth bellach i rymuster Twm o'r Nant fel bardd a dramodydd. Gwelir yma, fel y dywed golygydd y gyfrol, 'ffurf unigryw ar lenyddiaeth Gymraeg y telir ar ei ganfed i'r sawl a'i hastudio'.

Twm o'r Nant - Dwy Anterliwt

£15.00Price
    bottom of page