top of page
Ganmlwydd oddi ar anterth ei fri a'i awdurdod, erys dylanwad Syr John Morris-Jones ar farddoniaeth Gymraeg ac ar ein holl lenyddiaeth. Hebddo buasau cymeriad yr iaith ysgrifenedig yn wahanol iawn i'r hyn ydyw. Yr oedd yn hen bryd cael detholiad hwylus o'i weithiau beirniadol. Ar gyfer y gyfrol hon dewiswyd deg o'i brif feirniadaethau ar gystadleuaeth yr awdl yn yr Eisteddfod Genedlaethol, gyda rhai detholion ychwanegol. Dyma gyfle i edrych o'r newydd ar syniadau a safonau John Morris-Jones. Barned pawb fel y mynno am ei gredoau, fe geir blas fel erioed ar ei ryddiaith eglur, gartrefol a ffraeth.

Beirniadaeth John Morris-Jones

£15.00Price
    bottom of page