top of page
'Thomas Edwards o'r Nant, Pen Bardd Cymru', ysgrifennodd ei gyfaill Dafydd Samwel amdano ym 1789. Sut fardd yw Twm yng ngolwg cynulleidfa heddiw, tybed? Rhydd y gyfrol hon gyfle o'r newydd i farnu. Y tro diwethaf y cyhoeddwyd casgliad cynhwysfawr o'i waith oedd 1874, gydag ail argraffiad ym 1889. Ceir yma dros bedwar ugain o gerddi Twm. Yn eu plith mae caneuon ac areithiau o ganol miri'r anterliwt, cerddi cymdeithasol y Bardd Glwad, cerddi o feirniadaeth a dychan didrugaredd ar 'y byd echryslon', cerddi dysgeidiaeth a phrofiad crefyddol, a cherddi am helbulon aml bywyd y bardd. Canai Twm o fewn confensiynau a rannai â llawer eraill o feirdd ei ardal a'i oes. Eto yr oedd rhywbeth arbennig ynddo, a'i gwnaeth yn un o leisiau mwyaf personol llenyddiaeth Gymraeg.

Canu Twm o'r Nant

£15.00Price
    bottom of page