‘Alun Mabon’ yw bugeilgerdd helaethaf y Gymraeg, a diau y fwyaf adnabyddus oherwydd ei bod yn cynnwys pedair telyneg fytholwyrdd. Ond pryd y gwelsom ni hi yn gyfan ddiwethaf mewn print? Yng Nghyflwyniad Hen Lyfr Bach y Bugeilgerddi yr oedd lled-addewid y câi olau dydd cyn bo hir, a dyma hi. Yn gwmni iddi dyma ddetholiad bach o ganeuon mwyaf adnabyddus Ceiriog, gan obeithio y caiff bugeiliaid newydd eto eu mwynhau fel y gwnaed bellach ers cenedlaethau.
Ceiriog: Alun Mabon a Cherddi Eraill
£5.00Price