Ganol y ddeunawfed ganrif fe roes Goronwy Owen gychwyn newydd i farddoniaeth Gymraeg. Canai ar destunau cyfarwydd ei oes ac mewn moddau a oedd yn ffasiynol mewn llenyddiaeth Saesneg. Ond yn gyfeiliant i'r cyfan y mae ei helbul ef ei hun, ei obeithion a'i fynych siomedigaethau wrth chwilio am 'y gem neu'r maen gwerthfawr, sef dedwyddyd'. Dyma ddetholiad o'i gerddi enwog a llai enwog, gyda geirfa ac ambell nodyn i helpu'r darllenydd heddiw.
Cerddi Goronwy Owen
£3.00Price