A Cheiriog a Mynyddog wedi cael bob un ei Hen Lyfr Bach, dyma gyfle'r trydydd o'r drindod, Talhaiarn neu 'Yr Hen Dal', a gwahoddiad i do newydd o ddarllenwyr ystyried a gwerthfawrogi ei arbenigrwydd. Cân wladgarwch, serch, hiwmor a lol, pruddglwyf a sinigaeth, mewn cyfuniadau nas ceir yn union yr un fath gan neb bardd arall. Nid oes neb tebyg i'r Hen Dal am rannu barn, yn ei oes ac wedyn : barned darllenwyr heddiw wrth ddarllen y detholiad bach hwn.
Cerddi Talhaiarn
£5.00Price