Daw’r llyfr bach hwn i ben ag ymarfer o 120 llinell fer. Os gallwch gwblhau hwn yn llwyddiannus, gallwch ysgrifennu Cymraeg yn iawn. Yng nghorff y llyfr ymdrinir â rhai materion ieithyddol, gan ganolbwyntio ar wendidau a welir heddiw oherwydd sefyllfa’r Cymro, ond gwendidau y gellir eu cywiro i gyd, dim ond arfer ychydig o synnwyr. Mae yma hefyd rai RHYBUDDION IECHYD. Gwyliwch felly rhag: Y CLWY GOFOD ! Y CLWY SGILIAU ! Y CLWY ADDYSGU ! a’r CLWY PERSON ! Oriau o ddiddanwch !
Tystiolaeth myfyrwraig: "Rwy' wedi mynd i'r arfer o fynd ag o gyda mi i bob man."
Tystiolaeth dramodydd o Gymro: "Nid llyfr y flwyddyn ond Llyfr y Degawd. Anhepgorol. A chrafog. Mae 'Ac ara' deg eto' yn werth y pris ynddi ei hun."
Dafydd Glyn Jones - Iawn Bob Tro
£8.00Price
