top of page
Y Dreflan oedd nofel wreiddiol gyntaf Daniel Owen. Bu pob beirniad yn ei thrafod, a chyfeirio ati fel carreg filltir yng ngyrfa'i hawdur, - ond neb yn ei gweld. Mae'n debyg nad argraffwyd mohoni o gwbwl yn ystod yr ugeinfed ganrif. O fewn fframwaith gweddol lac, cawn ddod i adnabod gwahanol haenau o fywyd y Dreflan, a sylwi peth ar eu perthynas â'i gilydd. Rhoddir rhyw fath o linyn cyswllt hefyd gan thema boblogaidd diflaniad y Mab Afradlon a'i ddychweliad. Ond rhydd yr amodau hyn ddigon o gyfle i ddychan a doniolwch Daniel Owen a'i sylwgarwch ar 'yr hen natur ddynol', sydd cyn gryfed yma ag mewn unrhyw un o'i dair nofel ddilynol. Ceir rhagymadrodd, nodiadau a geirfa a fydd yn gymorth i'r darllenydd heddiw fynd i fyd Daniel Owen. Hyderwn y ceir darllen a gwerthfawrogi ar Y Dreflan unwaith eto.

Daniel Owen - Y Dreflan

£15.00Price
    bottom of page