Dramâu canmlwydd yn ôl a atgyfodir yn y gyfrol hon, a'r gyntaf ohonynt, 'Beddau'r Proffwydi', o bosib y gryfaf ei hargraff o'r holl 'hen ddramâu' Cymraeg, sef cynnyrch y mudiad drama amatur a welodd lwyddiant mawr yn ystod pedwar degawd cyntaf yr ugeinfed ganrif. Dramâu yn dibynnu ar elfennau confensiynol ydynt bron heb eithriad, a 'Beddau'r Proffwydi' gymaint â'r un. Eto mae rhywbeth arbennig ynddi, rhyw nodwedd 'ysgubol' y bu raid ar feirniaid ei chydnabod. Perthnasol bob amser yw'r teitl 'Dyrchafiad Arall i Gymro', ac er bod y Cynulliad Cenedlaethol i raddau bellach wedi disodli San Steffan fel y lle mae gwleidydd o Gymro ar brawf, mae'r tyndra rhwng hunan-les ac egwyddor yn dal yn thema ddigon byw.
Dramâu W. J. Gruffydd
£8.00Price