Golygwyd gan A. Cynfael Lake
Dyma rif 14 yng nghyfres Cyfrolau Cenedl.
Awdur cynhyrchiol a huawdl oedd Elis Roberts (1713?-89) neu
Elis y Cowper o Landdoged, Dyffryn Conwy, ac wele yma anterliwt o’i
waith sydd yn un o’r rhai mwyaf hynod o fewn y dosbarth hwn o
lenyddiaeth.
Ymddengys y Cybydd a’r Ffŵl fel ym mhob anterliwt, ond y tro hwn ceir llai nag arfer o’r cellwair bras rhwng y ddau gymeriad hyn. Yn lle hynny ceir cyfuniad o ddau ddefnydd gwahanol. Yn gyntaf, rhoir inni dalpiau o hanes Rhyfel Annibyniaeth America – y Ffŵl, meddai ef, wedi bod yn ei ganol! Traethir ar achosion y rhyfel, gan geisio mesur y bai ar y ddwy ochr. A meddylier mewn difrif am gyfraniad yr Hen Wraig o Indiad Coch, sy’n rhoi safbwynt y brodorion yng nghanol y gwrthdaro. Yn ail, ac yn brif beth yr anterliwt, ceir dadl ddiwinyddol ar ‘gwestiwn y Cyfamodau’, mater canolog yn hanes Cristnogaeth. Rhaid bod cynulleidfa a fyddai’n deall beth yw’r Ddau Gyfamod ac yn fodlon sefyll i wrando’r dadlau yn eu cylch.
Dyma gyfle inni ddysgu rhywbeth, ac efallai ofyn rhai cwestiynau, am chwaeth ein cyndadau mewn cyfnod allweddol o’n hanes.
£15. 00
top of page
£15.00Price
bottom of page