Mewn breuddwyd yn nechrau'r 1890au cafodd 'Pabydd' y chwedl hon olwg ar Gymru 2012. Cymru yw hi wedi ennill senedd ac wedi colli ei chrefydd Brotestanaidd. Dyfais Emrys ap Iwan, yma fel mewn gweithiau eraill, yw newidd golygwedd neu berspectif, fel bod Cymry ei oes yn eu gweld eu hunain mewn goleuni newydd ac yn dod i ofyn cwestiynau amdanynt eu hunain. Gallwn ninnau ofyn cwestiynau wrth ddarllen y stori heddiw. O fewn y fframwaith cyffredinol, faint o'r manylion sydd wedi eu gwireddu? A yw achos ac effaith rywbeth yn debyg i'r hyn a ragwelodd y 'breuddwyd', yntau a ddaethom i'r fan hon drwy ryw broses hollol wahanol?
Emrys ap Iwan - Breuddwyd Pabydd wrth ei Ewyllys
£8.00Price