‘N’ad fi’n Ango’ oedd enw’r gyfrol hon i fod, ond pan oedd mewn proflenni dyma glywed fod cyfrol arall o’r un enw newydd ymddangos! Galw’n Ôl felly, ond cadw llun y blodyn glas ar y clawr. Detholiad newydd sydd yma o waith beirdd a ganai dros drothwy’r ugeinfed ganrif ac i mewn i’w hanner cyntaf: Alafon, Bryfdir, Dyfnallt, Elphin, Gwili, James Evans, J.J. Williams, J.T. Job, Llew Tegid, Moelwyn, Sarnicol, Tryfanwy.
Yn eu dydd yr oeddynt yn feirdd ac yn ffigurau adnabyddus. Aethant braidd allan o gof, yn rhannol am iddynt gydoesi â beirdd mwy arloesol o genhedlaeth ychydig yn iau. Beth am gael golwg arnynt eto?
Galw'n Ôl: Deuddeg Bardd o Ddechrau'r Ugeinfed Ganrif
£15.00Price