top of page
Gyda chyhoeddi Camu’n Ôl a Storïau Eraill (2012) yr oedd yr hen Glyn Adda’n credu mai hwn fyddai ei destament, a’i fod wedi dweud yr hyn oedd ganddo i’w ddweud am gwrs hanes yr ugeinfed ganrif, am gyflwr Cymru heddiw, am wiriondeb diwaelod y ddynol ryw, ynghyd ag – o ran diddanwch pur – ambell wib i fyd yr ysbrydion. Ond yn wir daliodd rhagor o storïau i ddod o rywle. Ymhlith yr wyth stori yn y casgliad newydd hwn ceir dwy gomedi ddychanol a dwy ffars ddychanol, gydag ambell wirionedd am Gymru heddiw – neu felly y gobeithia’r awdur – yn dangos trwy’r gwamalrwydd. Ceir dwy stori am ‘hanes amgen’ neu ‘hanes na bu’ (a gall y darllenydd efallai ychwanegu ‘gwaetha’r modd’). A cheir dwy stori fach am gariad coll, – un o’r rheini’n symud rhwng deufyd. Cyhoeddir gan Dalen Newydd Cyf., a’r pris yw £8.00.

Glyn Adda - O'r India Bell

£8.00Price
    bottom of page