top of page
Dyma ddetholiad safonol, y cyntaf o'i fath, o straeon ysbryd Cymraeg. Ceir yma ambell hanesyn honedig wir ac ambell draddodiad lleol, ond straeon llenyddol neu ddychmygol yw'r rhan fwyaf. Boed i'r darllenwyr gael blas ar y rhyddiaith, ac efallai brofi ambell ias fach o arswyd yr un pryd. O blith llenorion Saesneg y mae rhai sydd wedi arbenigo mwy na'i gilydd yn y dosbarth hwn o lenyddiaeth, ond llawer eraill, yn cynnwys rhai o'r goreuon, wedi rhoi ambell gynnig arno. Yr un yn union yw'r patrwm yn Gymraeg, fel y dengys un olwg ar restr awduron y gyfrol hon: Lewis Morris, Twm o'r Nant, William Williams, Glasynys, Gweirydd ap Rhys, Daniel Silvan Evans, Daniel Owen, Richard Hughes Williams, W. J. Gruffydd, Kate Roberts, Evan Isaac, Awen Mona, Meuryn, J. E. Williams, Elizabeth Watkin-Jones, J. O. Williams, Rhiannon Davies Jones, Islwyn Ffowc Elis, E. H. Francis Thomas (sef D. Tecwyn Lloyd), Roy Lewis, John E. Williams, Geraint V. Jones, Gweneth Lilly, Irma Chilton, a Gwyn Thomas.

Rhywbeth Yn Trwblo

£15.00Price
    bottom of page