top of page
Ffenomen tri degawd o'r ugeinfed ganrif oedd y ddrama fydryddol fodern. Daeth i ddiwedd disymwth braidd, ond gadawodd inni rai campweithiau. Heb fawr amheuaeth, Murder in the Cathedral, T. S. Eliot yw cynnyrch enwocaf a mwyaf llwyddiannus y mudiad hwn. Troswyd hi i'r Gymraeg â chyffyrddiad meistraidd gan Thomas Parry, i'w chwarae ym 1949 gan Gymdeithas y Ddrama Gymraeg yng Ngholeg y Brifysgol, Bangor. Ymhen dwy flynedd yr oedd drama wreiddiol o waith y cyfieithydd yn barod ar gyfer yr un cwmni. Mae Llywelyn Fawr yn darlunion gyrfa'r mwyaf llwyddiannus o dywysogion Cymru'r Oesau Canol, yn ceisio awgrymu ym mhle yr oedd cuddiad ei gryfder, a'r pris a dalodd ef yn bersonol am ei lwyddiant gwleidyddol. I lawer, mae cymhariaeth yn ymgynnig rhwng hon a drama Saunders Lewis, Siwan, am yr un cymeriadau. Mae i'r naill a'r llall ei chywair a'i chymeriad, a dyn mentrus a ryfygai ddyfarnu rhyngddynt.

Thomas Parry - Dwy Ddrama

£10.00Price

    © 2015 gan ELIDIR JONES. Wedi ei greu drwy Wix.com

    bottom of page