top of page

Mathew Owen, John Morgan ac Elis ab Elis yw 'tri hen brydydd' yr Hen Lyfr Bach hwn. Cynrychiolwyr ydynt i awen Gymreig ail hanner yr ail ganrif ar bymtheg a dechrau'r ganrif wedyn, a dyma wahoddiad i ddarllenwyr heddiw ddod i feddwl mwy am gyfnod y tueddwyd i'w anwybyddu. Brogarwch, ieithgarwch a chyfeillgarwch, - efallai mai'r tri hyn a'n tery gyntaf wrth droi at gerddi'r tri bardd. Âant ymlaen i ganu ar amrywiaeth o bynciau a themâu sy'n ddrych i'w hoes. Oes yma'r ddawn i'w 'tharo-hi'? Barned y darllenwyr.

Tri Hen Brydydd

£5.00Price
    bottom of page