Dyma ddetholiad newydd o blith cynnyrch rhyddiaith toreithiog yr Athro W. J. Gruffydd. Yn ogystal â bod yn 'feirniad diwylliant' mewn ystyr eang, yn bwrw'i olygon dros lenyddiaeth, bywyd cymdeithasol, gwleidyddiaeth a chrefydd gan weld y pethau hyn oll yn eu perthynas â'i gilydd; ac wrth fwrw'i lygad, bwrw'i fol hefyd, gan fynegi barn bersonol iawn a chan gynrychioli yr un pryd draoddiad o feddwl yng Nghymru Ymneilltuol a Ryddfrydol. Adlewyrchir yma Gymru rhwng trigain a chanmlwydd yn ôl, a Chymru yr amharwyd arni'n ddwfn gan helbulon byd y cyfnod, yn benodol gwrthdrawiadau gwaedlyd gwladwriaethau Ewrop. Ceisiau Gruffydd weld sut orau y gallai Cymru oroesi drwy hyn oll. O ran ysgrifennu Cymraeg, nid oes gwell patrwm na Gruffydd, a gall pawb ohonom fwynhau ei ddweud ysgubol ac elwa o'i ddarllen.
W. J. Gruffydd - Eira Llynedd ac Ysgrifau Eraill
£15.00Price