'Prydnawngwaith y Cymry' (1822) oedd y llyfr Cymraeg printiedig cyntaf i drafod Oes y Tywysogion fel pennod glir o hanes Cymru. Llawlyfr cryno ydyw, syml ei gynllun, ond gyda theimladau cryfion ei awdur - a'i ragfarnau hefyd - yn rhoi bywyd mewn aml dudalen. Ceir hwyl wrth ddyfalu beth a fyddai ganddo i'w ddweud heddiw am rai pethau yng Nghymru! Dyn prysur, dawnus a meistrolgar oedd William Williams, Llandygai. Yr oedd yn awdur toreithiog, yn arloeswr yr ysgrif gylchgronol ac yn brydydd nid ffôl yn y mesurau rhydd. Dyma gyhoeddi, am y tro cyntaf erioed, ddetholiad o'i ysgrifau a'i gerddi.
William Williams - Prydnawngwaith y Cymry
£10.00Price