top of page

TYLWYTHAU LLÊN

‘Yn y detholiad hwn o ysgrifau beirniadol Dafydd Glyn Jones briga’r wythïen bersonol, atgofiannol i’r wyneb yn ddymunol o gyson, gan daflu golwg ar ddiwylliant cenhedlaeth a chymuned gyfan yn ogystal ag ar brofiadau darllen a phrifiant deallusol yr awdur ... Pe bai gan Tylwythau Llên fynegeion i’r awduron a’r testunau a grybwyllir, byddai’n tystio i anferthedd cronfa ddarllen y beirniad.  Ac os oedd difyrrwch yn y creu, nid syndod bod difyrrwch di-ben-draw i ni yn y darllen ...  Heb gyfeirio at bob un o’r 14 pennod rhaid crybwyll “Dau Fath o Glasur” sy’n esbonio’r amodau a’r cymhelliad a droes y darlithydd difyr a’r beirniad athrylithgar a allai drin llenyddiaeth ei genedl yn rhwydd ddiymhonnus yng nghyd-destun y “tylwythau llên” rhyngwladol, yn gyhoeddwr llyfrau “Dalen Newydd”. “Rhyfeddol! Ysblennydd!” fydd ymateb llawer ohonom, does bosib, wrth ddarllen y gyfrol hon.’

 

– Robert Rhys, Barn.

 

‘Mae ehangder y casgliad hwn yn syfrdanol, yn ymestyn o ddamcaniaethau athronyddol dyrys i atgofion am gyffro straeon plentyndod, gan dynnu esiamplau o sawl cyfnod a gosod llenyddiaeth Gymraeg yng nghyd-destun clasuron y byd. Yn sail i’r cwbl y mae cred yr awdur “mai un yw llenyddiaeth, er bod iddi fyrdd o foddau”. Mae’r ysgrifau’n tystio i gyfraniad cyfoethog Dafydd Glyn Jones i feirniadaeth lenyddol dros gyfnod o hanner can mlynedd, yn gyson heriol, difyr a darllenadwy, a hyfrydwch yw ymdeimlo â’i frwdfrydedd dros lyfrau a llên o bob math.’

 

– Dafydd Johnston, Y Traethodydd.

© 2015 gan ELIDIR JONES. Wedi ei greu drwy Wix.com

bottom of page