top of page

NED A GÂN ENAID Y GERDD

‘Golygwyd y gyfrol yn rhagorol iawn gan yr ysgolhaig, Dr Ffion Mair Jones, yn seiliedig ar waith ymchwil manwl ymhlith casgliad helaeth o lawysgrifau. Canmil diolch iddi am ei llafur cariad. Rhoes inni destun cwbl safaonol o 30 cerdd, a cheir 46 tudalen o nodiadau gwir werthfawr a manwl. Yr yn modd cynhwyswyd rhestr ddefnyddiol dros ben o Lyfryddiaeth a Geirfa.  Rwy’n ei chanmol hefyd am iddi wrth olygu gadw “llu o nodweddion yr iaith lafar”, ac osgoi’r demtasiwn barod i or-safoni. ...

 

Dengys y cerddi caeth a olygwyd ... feistrolaeth sicr Edward Moris ar y gynghanedd. Yr un modd ei ddawn gyda’r canu rhydd, yr hyn a alwodd Thomas Parry yn “ganu caeth newydd”, ac yn sicr ei ddawn wrth gyfansoddi ei hoff fesur, sef penillion tri thrawiad. Yn y gyfrol hon cynhwyswyd, er enghraifft, nifer o gerddi cysylltiedig â rhai o noddwyr y bardd, megis teulu Mostyn, Gloddaith, Sir Gaernarfon; cerddi coffa; cerddi yn adlewyrchu ei gariad at yr iaith Gymraeg; “Carol yr Haf”; “Carol y Ciwpid”; a cherddi ar bynciau diddorol, megis “Cywydd i Ofyn Gwn”; a “Chywydd i Ofyn Tarw”.

 

– Robin Gwyndaf, Barn.

 

‘Huw Morys “Eos Ceiriog” yw bardd mwyaf adnabyddus yr ail ganrif ar bymtheg ac enillodd barch haeddiannol ar gyfrif ei “nefolaidd garolau”, chwedl Lewis Morris o Fôn, ond yr oedd ei gyfoeswr iau, Edward Moris o’r Perthillwydion, heb os yn dynn wrth ei sodlau.  Yn ôl Huw Morys a ganodd farwnad iddo, yr oedd yn “ben bardd” ac “yn dad cynghanedd deg” a mynnai ymhellach mai “Gardd win oedd ei gerdd wenith”. ... Detholiad o 30 o’i gerddi a gyflwynir yn y gyfrol hon a olygwyd gan Ffion Mair Jones yn rhan o’r gyfres Cyfrolau Cenedl. Gellir rhannu gwaith Edward Moris a Huw Morys, ac yn wir weithiau’r rhan fwyaf o’u cyfoeswyr llai adnabyddus, yn ddau ddosbarth.  Ar y naill law y canu ar y mesurau caeth traddodiadol, yn gywyddau, awdlau ac englynion, ac ar y llaw arall y canu sy’n seiliedig ar alawon cerddorol, rhai yn frodorol eu tarddiad, eraill wedi cyrraedd o Loegr.  Cynrychiolir y ddau fath yn y detholiad hwn.’

 

– A. Cynfael Lake, Y Traethodydd.

© 2015 gan ELIDIR JONES. Wedi ei greu drwy Wix.com

bottom of page