‘Elphin y dramodwr enwog / Sydd yn feirniad llym gynddeiriog’ medd cyfoeswr am Robert Arthur Griffith, ‘Elphin’ (1860-1936), un o feibion Caernarfon. A gwir y gair. Mae tri chyfrwng i’w feirniadaeth ‘gynddeiriog’, sef ysgrifau, cerddi a drama. Yn y gyfrol hon dyma ddetholiad o blith y ddau gyntaf, ynghyd â rhagymadrodd cynhwysfawr sy’n gosod Elphin yn ei gyfnod a’i gefndir. Yn annisgwyl efallai mewn bargyfreithiwr a barnwr, yr oedd yn ŵr o safbwyntiau eithriadol flaengar fel radical a chenedlaetholwr; wedi marw Emrys ap Iwan prin yr oedd neb yng Nghymru’r genhedlaeth yn medru ‘ei dweud-hi’ mor gyrhaeddgar a didderbyn-wyneb. Ymhlith gwrthrychau ei ddychan y mae gwleidyddiaeth, crefydd, barddoniaeth, eilunod y Cymry, bywyd Cymru’n gyffredinol, imperialaeth Brydeinig a rhagrith llywodraethau. Weithiau mae’n ddychanwr a thynnwr coes, dro arall yn broffwyd difrif a thaer, nid amherthnasol i’n dyddiau ninnau. Gall y darllenydd gael ei daro gan y gwahaniaeth rhwng, ar y naill law, y radicaliaeth gadarnhaol sydd yn ei ysgrifau, ac ar y llall y meddyliau tywyll yn rhai o’i gerddi. Ardderchog o beth yw i genhedlaeth newydd wybod am ei waith.
top of page
£15.00Price
bottom of page
