Mewn llenyddiaeth fel ym mhob celfyddyd ac yn wir drwy natur oll, mae tylwythau. Mae inni’r dewis o ddynodi tylwyth llenyddol yn ôl ffurf – nofel, englyn, drama, stori fer, cywydd &c &c, neu ynteu yn ôl cynnwys a thema, y pethau y mae gwahanol weithiau yn eu dweud amdanom ac am fywyd yn gyffredinol: dyna inni drasiedi, comedi, dychan, ffars, rhamant &c &c. Yn ysgrifau’r gyfrol hon arferir tipyn ar y ddau ddull, a hefyd trafodir ychydig ar yr egwyddor a’r arferiad o gymryd llenyddiaeth fesul math, dosbarth, modd neu beth bynnag y’i gelwir. Mae ‘pwy sy’n perthyn?’ yn gwestiwn o ddiddordeb bob amser.
Dafydd Glyn Jones - Tylwythau Llên
£15.00Price
