Un Newid a Hen Lyfrau Bach
Mae un newid wedi digwydd. Ni welwch y ‘Cyf.’ yn enw’r hen Ddalen Newydd o hyn ymlaen. Penderfynwyd nad oes angen y statws hwn er mwyn parhau i weithredu. Na phoenwch, ar dudalen yr Hen Lyfrau Bach fe welwch bedwar teitl newydd yn y gyfres hon, yn dwyn y rhif i 20. Dyma ychydig wybodaeth am bob un.
Rhif. 17. Carolau Haf Huw Morys a’i Gyfoeswyr GOLYGYDD : Eurig Salisbury
Un o ddatblygiadau hynod barddoniaeth Gymraeg yw’r arferiad a ddaeth i fri mawr yn ystod yr ail ganrif ar bymtheg, a pharhau am ganrif dda wedyn, o gynganeddu cerddi rhydd acennog, gan roi inni y ‘canu rhydd caeth’ neu’r ‘canu carolaidd’. At ei gilydd, claear fu ymateb beirniaid a haneswyr llên yr ugeinfed ganrif i’r corff hwn o gerddi; tueddid i ddiflasu ar y ‘cleciadau’ a chwyno bod yma ‘ormod o’r un peth’. Efallai ei bod yn bryd dychwelyd ato a gwerthfawrogi ei artistri cwbl arbennig. Cenid y carolau ar wahanol achlysuron ac adegau o’r flwyddyn, ac yn y detholiad bach hwn yr hyn a gawn yw croesawu dyfodiad mis Mai, llawenhau yn y rhodd o fywyd a diolch i Dduw am ei fendithion. Huw Morys o Bantymeibion, ‘brenin y carolwyr’ biau’r rhan fwyaf o’r gyfrol, a chawn glywed hefyd gan Siôn ab Ifan Grythor, Wmffre Dafydd ab Ifan, Edward Rowland, Siôn Dafydd Laes ac un bardd anhysbys. A dyfynnu golygydd y gyfrol, ‘Dyma ddwyn i olau dydd ychydig o ganu afieithus canrif yr esgeuluswyd ei barddoniaeth am yn rhy hir.’
Rhif. 18. Emynau Morgan Rhys
GOLYGYDD : Dawi Griffiths
‘O agor fy llygaid i weled / Dirgelwch dy arfaeth a’th air ...’. ‘Dyma geidwad i’r colledig, / Meddyg i’r gwywedig rai ...’, ...’, ‘Beth sydd imi yn y byd ...?’, ‘Rhyfeddod a bery’n ddiddarfod ...’, ‘Gwnes addunedau fil / I gadw’r llwybr cul ...’, ‘Pechadur wyf, O arglwydd, / Sy’n curo wrth dy ddôr ...’, ‘Helaetha derfynau dy deyrnas / A galw dy bobl ynghyd ...’ , ‘Aeth yn brynhawn, y mae’n hwyrhau, / Mae drws trugaredd heb ei gau.’ Wele rai o linellau enwocaf emynyddiaeth Gymraeg, gwaith Morgan Rhys, un o ‘emynwyr mawr Sir Gâr’. Yn yr Hen Lyfr Bach hwn dyma gyfle i’w gweld unwaith eto yn eu cyd-destunau; cyfle hefyd efallai i ni heddiw ystyried y profiad a’r argyhoeddiad sydd ynddynt, ac efallai ofyn sut y daeth cynifer o genhedlaeth Morgan Rhys i rannu’r un profiad a’r un argyhoeddiad. Rhaid i’r emynydd wrth ei ddiwinyddiaeth, a rhydd i bob un ei farn am honno. Rhaid i’r bardd wrth beth arall – clust. Ac mae honno yma.
Rhif. 19. Cerddi Talhaiarn GOLYGYDD : Dafydd Glyn Jones
A Cheiriog a Mynyddog wedi cael bob un ei Hen Lyfr Bach, dyma gyfle’r trydydd o’r drindod, Talhaiarn neu ‘Yr Hen Dal’. Yn 1931 y cyhoeddwyd ddiwethaf ddetholiad o’i gerddi, a’n gobaith yw y daw to newydd o ddarllenwyr i weld ac i werthfawrogi ei arbenigrwydd. Yn Gymro ar grwydr am y rhan fwyaf o’i oes, cân frogarwch, ac yn hen lanc, cân gerddi serch persain a hollol argyhoeddiadol. Cân hefyd hiwmor a lol, pruddglwyf a sinigaeth, mewn cyfuniadau nas ceir yn union yr un fath gan neb bardd arall. Nid oedd neb tebyg i’r Hen Dal am rannu barn, yn ei oes ac wedyn, ac arddangosir peth o hynny yng Nghyflwyniad y detholiad bach hwn: T. Gwynn Jones, J. Glyn Davies a Saunders Lewis yn gweld cryfderau mawr ynddo; R. Williams Parry a W.J. Gruffydd heb eu hargyhoeddi! Darllened a barned darllenwyr heddiw.
Rhif. 20. Tri Hen Brydydd GOLYGYDD : Dafydd Glyn Jones
Mathew Owen, John Morgan ac Elis ab Elis yw ‘tri hen brydydd’ y gyfrol fach hon. I’r cwestiwn ‘pwy?’ yr ateb yw ‘darllenwch eu gwaith’. Tri o Feirion oeddent, a gellid dewis beirdd eraill ddigon o blith eu cyfoeswyr, yn canu yn ystod ail hanner yr ail ganrif ar bymtheg a thros drothwy’r ddeunawfed – cyfnod y talai inni ddod i wybod mwy amdano. Wrth fwrw i mewn i’r cerddi efallai mai’r tair thema a’n tery gyntaf yw brogarwch, ieithgarwch a chyfeillgarwch. Ceir ailadrodd yr ‘hanes chwedlonol’ Cymreig-Frytanaidd ynghyd ag amharodrwydd i ollwng gafael arno. Cenir i’r ‘oes’ gan ladd ar ei phechodau, ac ymuna pawb i ddyrnu’r cybyddion. Ceir peth canu serch, canu am briodas, a’r canu hwnnw lle mae’r ddau ryw yn cloriannu a barnu ei gilydd. Cawn olwg hefyd ar ‘seicoleg’ yr oes, yr arfer o ddosbarthu dynol ryw yn deipiau. Confensiynol yw pob llinell o’r cerddi hyn, ond gobeithia’r golygydd y cytunir ag ef fod ‘confensiwn hefyd yn beth difyr’.
£5.00 yr un. £15 am becyn o bedwar.
Gan eich llyfrwerthwr neu o’r safle hon.
Comments