

Yn Newydd gan Ddalen Newydd
Elis y Cowper: Anterliwt y Ddau Gyfamod Golygwyd gan A. Cynfael Lake Dyma rif 14 yng nghyfres Cyfrolau Cenedl. Awdur cynhyrchiol a huawdl oedd Elis Roberts (1713?-89) neu Elis y Cowper o Landdoged, Dyffryn Conwy, ac wele yma anterliwt o’i waith sydd yn un o’r rhai mwyaf hynod o fewn y dosbarth hwn o lenyddiaeth. Ymddengys y Cybydd a’r Ffŵl fel ym mhob anterliwt, ond y tro hwn ceir llai nag arfer o’r cellwair bras rhwng y ddau gymeriad hyn. Yn lle hynny ceir cyfuniad o ddau dd